Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr ]4erald Cenadol. Rhif ii. TACHWEDD, 1899. Cyfrol XX. Y GENADAETH. GAN Y PARCH. HUGH JONES, BLAENYWAUN. mN o syniadau amlycaf a gogoneddusaf dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu Grist, yw fod ei efengyl i'w phregethu fel un addas a digonol i'r holl fyd. Felly, o ran ei hysbryd a'i gweithgarwch y mae Cristionogaeth o angenrhaid yn Genadol, a phan y cyll y nodwedd hwn diflana un o'i phrif ragoriaethau. Nid yw'r ffurfiau cyfun- drefnol, sydd yn gynyrch cyfoeth ei bywyd, yn hanfodol i'w bodolaeth; ond pan beidia fod yn Genadol, cyll un o amcanion ei sefydliad gan ei Hawdwr. Cenadaeth i genedl oedd eiddo yr Iuddew, ond efengyl i fyd yw eiddo Cristionogaeth. Gwir fod gan yr Iuddew ei broffwydi, ond proffwydi i'r genedl oeddynt; gwir fod ganddi yn ei theml gyntedd y cenedloedd, ond yr oedd yno hefyd ganolfur y gwahaniaeth wedi ei godi. Ceir hanes cenadaeth Jonah at y Ninifeaid yn mysg ei llyfrau cysegredig, ond ysgrifenid hwnw er adgoíìo yr Iuddew fod gan Dduw drugaredd i ereill heblaw y genedl. Cadwodd Iuddewiaeth ei hun trwy neillduaeth; ceidw Cristionogaeth ei hun trwy ymledaeniad. " Christianity is a diffusive philanthrophy, and it requires perpetual propagation to attest its genuiness."— Livingstone. Nodweddir gorphenol ei hymgyrch ymledaenol gan lwyddiant; a phan ystyrir dinodedd ei dechreuad, gwaeledd ei chyfryngau gweledig, yn ogystal ag amledd ei gwrthwynebiadau, nid oes genym ond priodoli yr oll i'w Dwyfol Awdwr. Dechreuodd trwy enill buddugoliaeth ar deymas, sef yr Ymerodr- aeth Rufeinig, yr hon oedd un o'r teyrnasoedd cryfaf, cadarnaf, eangaf, a welodd y byd erioed. Yr oedd Rhufain yn oddefol i bob crefydd, ac yn ysbryd Galio y rhaglaw, ni ofalai am " yr ymadrodd, a'r enwau, a'r ddeddf" oedd yn eu plith. Agorai ddrws ei theml orwych—y Pantheon—i groesawi eilunod crefydd pob cenedl orchfygedig. Ond am Gristionogaeth, gosododd holl beirianwaith