Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYLCHGMWN CEMDLAETHOL Cyf. II] CHWEFROR, 1854. [Rhif. 2. RHAGOROLDEB DYN AR BOB CREADÜR ARALL. TRAETHAWD BÜDDÜGOL YN AIL EISTEDDFOD CYMDEITBAS LENYDDOL CARBONDALE. PA., RHAGFYR 26, 1854.' "Gw.'iaethosi idùo arglwyddiaelhu ar weithredoedd dy ddwylaw ; gosodaist bob peth dan ei draed eî."—Dafydd. Ye. unrhyw harddwch anghydmarol a doethineb tragwyddol ag a ganfyddir yn mantellu holl greadigaeth Duw yn ei sefyll- fa fodolawl, a ddadlenir i'r meddwl wrth edrych ar y trefniant godidog yn mha un ei dygwyd i fodolaeth. Os dylynwn y crëad o'r amser pan ydoedd y byd hwn yn gymysg- edd annhrefnus, ac " Ysbryd Duw yn ymsym- ud ar wÿneb y dyfroedd," hyd y seithfed dydd, pa» y gorphwysodd Duw oddiwrth ei holl waith, y fath gydgordiad digyffelyb a welir yn y graddau trwy ba rai y dygwyd anian i fod! Ni a welwn y naill beth ar ol y Uall yn cael eu dwyn o groth dyddimdra, o radd i radd, gan ddangos y rheol ddigyfeiliorn wrth ba un yr oedd yr Ysbryd Tragwyddol yn gweithredu. Ni chanfyddir dim wedi ei ddwyn i fodolaeth allan o le nac aUan o am- 8er. Ni chrëwyd pysgod o fiaen y dyfroedd yn mha rai yr oeddent i fyw; ac ni chrëwyd anifeiliaid cyn i'r ddaiar egino a dwyn y ffrwytbau oedd i fod yn gyndiaeth iddynt. Panaeth Duw i greu dyn, yr oedd pob peth yn barod i'w dderbyn a'i wneud yn gysirus. Orëwyd ef i lywodraethu pob peth byw, ac yr oedd pob peth yn barod iddo gymeryd awenau y llywodraeth yn ei law yn union- gyrchol. Gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun. Ni dderchafodd dyn i fod yn ben ar bob peth daiarol, heb ei gyfaddasu i arfer yr aw- durdod hwnw, trwy roddi iddo natur uwch nag eiddo y crëaduriaid direswm. Mae dyn yn meddianu sefyllfa ddyddorol iawn yn ngraddau bodolaeth. Ynddo ef y cydgyf- erfydd ac y cydgysylltir y byd gweîedig a'r byd anweledig. Y mae y ddwy natur, y gylweddol a'r ansylweddol, yma yn cydgyf- arfod, ae yn gwneud i fynu un bod. Efe ydyw y ddòl— " Rhwng naturiaeth yr angel—puredig, Sy'n ysbryd aruchel, A rhes y natur isel—ddistädlaf, A ddyrai y Naf idd yr anifeî." Gyfryw yw dynoliaeth. Nid yw oll yn sylweddol, ac felly yn gwbì anifeilaidd ; nac oll yn ysbrjdol, ac felly yn gwbl angelaidd; ond y ddau yn un—ysbrydoliaethymgnawd- oledig. Pa fodd yr effeithiwyd y cysylitiad rhyfedd hwn rhwng corff ac enaid, sydd fwy nag a allwn ni ei amgyffred yn ein sefyllfa bresenol; ac y mae yn lled aaiheus pa un a ddeuwn i wybod hyny ryw amser a ddaw ai peidio. Er ei fod yn ddiamheuol y byddwn yn alluog i ddeall llawer o bethau a ym- ddangosant yn ddyrus yn bresenol, ac feall- ai hyn yn eu plith, pan na fyddo ein heneid- iau yn cael eu clogwyno gan ein cyrff, a phan fyddo cyneddfau yr enaìd yn rhydd i weith- redu yn eu nerth cynwynol eu hunain. Ond beth bynag anì hyny, mae yn sicr fod y cys- ylltiad hwD yn bodoli, a'r effaith o hono yw Dyn. I sylwi yn fwy manwl ar ragoroldeb dyn ar bob creadur arall, ac yn mha bethau y mae y rhagoroldeb hwn yn gynwysedig, cawn nodi rhai o'r nodweddion sydd yn eu gwa- haniaethu. Er mwyn hwylusdod a threfnus- rwydd, sylwn ar ragoroldeb dyn o dan ddau ben cyffredinol; sef, y rhagoroldeb anian- yddol, à'r rhagoroldeb meddyliol. EHAGOEOLDEB ANIANYDDOL. Cyn myned yn mhellach, er mwyn gwylio yn erbyn camddealltvfriaeth. priodol yw hys* bysu y darllenydd béèìi wyf yn feddwl wrtli "anianyddol" yn y Ue hwn. "Wrth "ragor- oldeb anianyddjOl" yr wyf yn deall y rhagor- oldeb a ganf^ddir yn nghyfansoddiad ei gorff: y rhan sylweddol a theimladwy o ddyn. Y mae ffurf corfforol dyn yn tra ragori ar eiddo pob creadur arall. Ni cheir mewu un ffurf arall gynifer o elfenau harddwch a dar- luniad wedi eu cydgysylltu, y fath egwyddor- ion delweddawl eglur a sefydledig, a'r &th gymhwysiad dedwydd o'r ddelw hono i ddy- ben; mewn gair, y fath berffeithrwydd dy-