Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYLCHGRAWN CEMDLAETHOL Cyp. III.] MAWRTH, 1855. [Rhif. 3. O'r Traethodydd. PABYDDIAETH AC ANFFAELEDIGRWYDD. {Parhad o tuda). 60.] Cyflwynir yr ysgrythyrau canlyncl fel prawf o anffaeledigrwydd cynnadì- eddau cyffredinol Rhufain—"Ond pan ddel efe, Sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwifionedd:" eilwaith, "Ac weìe yr ydwyffi gyda chwi bob amser hjd ddiwedd y byd:'' hefyd, "Eithr n?i a weddìais drosot na ddiffygia dy ffydd di:" drachefn, "Canys lle y mae dau neu dri wedi ym- gynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." Dylasent ymlaenaf o*l, cyn cynnyg yr ysgrythyrau uchod at y cyfryw bwrpas, allu profi fod cynnadleddau cyffredinol wedi eu sefydlu, gan yr Hwn a addawodd fod gyda ei eglwys hyd ddiwedd amser, ac hefyd fod Pen mawr yr eglwys wedi trefnu i ddoniau ysbrydol redeg o etifedd i etifedd, yn wrthwyneb i dystiolaeth yr ysgrythyr, yr hon a ddywed fel hyn;—"Y rhai ni aned o waed, nac oewyll- ys y cnawd, nac o ewyliys gŵr, eithr o Dduw." Y mae tröedigaeth un pech- adur at Grist yn cael ei osod allan yn y gwirionedd fel peth annibynol oddi- wrth bob cysylltiad daearol, ond mewn ymddibyniaeth hollol ar Dduw; pa faint mwy y pwyìlgor eglwysig a ymgynnullai er trefnu pethau mawrion íeyrnas Crist yn y byd? Bod yr Arglwydd wedi addaw ei bresennoldeb i'w eglwys, sydd ddigon amlwg, ac nid oeb ammheuaeth na chyflawna tfe ei addewidion; ond nid yw hyny yn profi ei fod yn dderbyniwr wyneb, a'i fod yngorioi cyfranu ei feddwi tragywyddol i ryw linell neilluol o ddynolion ; ac y mae yn wrthwyneb i sancteiddrwydd Duw roddi ei wyneb ar, na'i bres- ennoldeb gyda dynion, yn ddiystyr o natur eu ffydd, eu moesau, a'u hegwy- ddorion. Y gaiî a ddywedodd Crist wrth Pedr, a gyfrifir yn benderfjniad gan Rhufain ar y mater, yn ei berthynas à'r pab :—"Ac yr ydwyffinnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi;" Mat. xvi. 18. Y ddadl yw, pa beth a olygir wrth y graig hon ; pa un ai Crist, athrawiaeth Crist, ai ynte Pedr. Addefir gan bawb raai sylfaen mawr yr eglwys yw Crist; addefir hefyd mai Pedr oedd y cyntaf o'r dysgyblion a gydnabyddodd Grist yn "Fab y Duw byw;" ac nid oes dim yn fwy tebyg nag i'r Iesu lefaru y geiriau wrth Pedr, am mai efe oedd y cyntaf yn y broffes efengylaidd. Pnod-ddull ein Har- giwydd, pan yn ìlefaru ymron ar bob achos, fyddai defnyddio amgylchiadau, a chyfeirio at bethau tuallan i sylw ei wrandawyr, felly y waith bon; cawn mai ystyr y gair Pedr yw careg, neu ddarn bychan o graig. Sylwodd yr Icsu ar ei enw yn ei ystyr,—yr enw, cofiwn, ac nid Pedr ei hun. Awn i cdrych ar ysgrythyrau eraill yn cynnwys y gair craig ; yr ydym yn colli Pedr yn ei Feistr; darllenwn Epistol Cyntaf Pedr ei hun, yr hwn a ysgri- fenodd wedi i'r Iesu farw, gwelir yno ddyfyniad allan o brophwydoliaeth Esaiah, am Grist, o dan yr enw cong/faen ; y mae yn defnyddio yn ^gos yr un geiriau fel ei gredo ei hun,—"Wele yr wyf yn gosod yn Sion ben congl- faen, etholedig, a gwerthfawr ;" ond nid oes gair o grybwylliad gan Pedr am ^ano ei hun, am na feiddiai ymffrostio mewn sylfaen arall ond Cristyn unig. î mae dull lleforiad geiriau Crist wrth Podr, jn ddigon i brofi eu bod yn