Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYLCHGRAWN CEMDLAETHOL. CrF. ITI.] MEDI, 1855. [RHif. 9. YMCHWILIADAU MEDDWL DYN I WEITHREDOEDD DWYLAW DUW. Rhan II. Wrth olrhain cyfnod babanaidd y wyddoreg dan sylw yn ein hysgrif flaen" orol anghenrhaid a osodidarnom i ddyfalu a phalfalu ein ífordd, gan nad oedd genym ond ffeithiau wedi eu trosglwyddo mewn traddodiadau o hen oesau yn hir cyn geni hanesyddiaeth ysgrifenedig. Y waith hon, wrth olrhain helyntion cyfnod ei hieuenctyd, yr ydym yn dvfod i dir golcuach, gan fod hanesyddiaeth genym bellach yn "llusern i'n traed, ac yn Uewyrch i'n llwybrau." Canlynodd y wyddoreg hon ac eraill yrfa yr haul, gan ym- deithio o'r dwyrain tua'r gorllewin, ac ymlid anwybodaeth, difrawder, a barbariaeth ymaith o'u blaenau, a thaenu goleuni a bendithion gwybodaeth a chelfyddyd o'u hamgyîch ymhob man yr ymwelent hwy. Rhagorodd y Groegiaid ar yr holl genedloedd henafol yn mawredd ac amledd gorchestion eu hathrylith, eu gwyddonau, a'u celfyddydau. Cyn- nyrchodd yr hadau a'r planhigion a drosglwyddasid drosodd o Asia ffrwyth- au toreithiog iawn yn nhir Groeg. Yno y gwreiddiodd ac y tyfoddyrawen yn gedrwydden gref a changenog. Yno y bwriodd allan yr arwrgerdd, y fugeilgerdd, y drychfarddaeth, a changenau eraill y gân, ac y sefydlwyd eu rheolau a'u deddfau gyntaf. Rhagorodd ei harlunwyr a'i cherfwyr {sculptws) hi ar yr eiddo unrhyw wlad a chenedl arall, a'r un modd ei hathronyddion a'i hareithwyr; fel y mae athrylith ei beìrdd, treiddgarwch ei hathronwyr, hyawdledd ei hareithwyr, darfelydd ei gwyddonwyr, a chywreindeb ei chel- fyddydwyr,yn wrthddrychau edmygedd cyffredinol a pharhàus Cyfenwid ei Homer yn dad awenyddiaeth. ei Thales yn dad athroniaeth, ei Demosthe- nes yn dad areithyddiaeth, ei Galen yn dad meddygaeth, a'i Hipparchus yn dad seryddiaeth. Cyfenwid yr olaf felly nid &m mai efe oedd y sywedydd cyntaf mewn ffaith, ond am mai efe yw y cyntaf un a ragorodd yn y wyddor- eg ag y mae ei enw ar gael a chadwraeth, ac am mai efe oedd y cyntaf er- ioed a ddosranodd ser y ffurfafen yn ddosbarthiadau athylwythau penodol, gan eu rhifo a'u mapio^ drwy yr hyn y cyflawnodd wasanaeth anmhrisiadwy i'w holl olynwyr yn eu hymchwiliadau. Ond, wedi y cyfan, nid ennillodd y Groegiaid lawer iawn o dir newydd yn ngororau y nefoedd. Ychydig, mewn cymhariaeth, a eangasant ar der- fynau tiriogaethau y wyddawr. Yr oedd rhyw faen tramgwydd ar y ffordd yn rhywle—rhywbeth yn attal a attaliai nes ei dynu ymaith; ond ni wyddid pa beth, nac ymha le yr oedd. Aeth oesau ar ol oesau heibio cyn ei gael allan. TJnioni rhai o gamgymeriadau yr henafiaid boreuol—egluro a chad- arnhâu egwyddorion a ffeitniau eraill a ddarganfyddasent hwy—a hwyluso