Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYLCHGRAWN CENEDLAETHOL. Cyf. IV.] IONAWR, 1856. [Rhif. 1. O'r Traethodydd. TAFLENI ACHAU IESU GRIST GAN YR EFENGYLWYR. Y mae perygl bob amser, yn ngwyneb cynnydd cryf Uygredigaeth, mewn rhyw ffurf neillduol, mewn gwlad, neu ruthr arbenig rhyw gyfeiliornad din- ystriol arni, i bleidwyr moesoldeb a charedigion y gwirionedd, o'i mewn, anghofio Uygrediggetb.au a chyfeiliornadau eraill, llawn mor niweidiol, a allent fod, ar y pryd, mor wirioneddol, er nad yn hollol mor amlwg, yn ym- osod arni, Nid ydym heb feddwl nas gallai ein bod ni yn Nghymru mewn graddau o berygl, y dyddiau hyn, i syrthio i'r amryfusedd hwn. Y mae yr ymdr.echiadau a wnaed, yn y blyneddau diweddaf, tuag at ddarostwng un gelyn mawr i foesoldeb a chrefýdd yn ein plith, yn deilwng o bob canmol- iaeth. Pell oddiwrthym ni fyddo amddifiyn pob dywediad, na cheisio cyf- iawnhau yr holl eithafion, y mae rhai wedi myned iddynt, pan yn dadleu dros yr achos dirwestol, ac yn enwedíg y chwareu sydd wedi ymgysylltu âg ef mewn rhai cymydogaethau, nas gall dueddu i ddim, yn oleinmeddwl ni, ond i bellhau rhai tyner eu cydwybodau oddiwrtho ; ond am yr achos, yn- ddo eu hunam, yr ydym yn hollol benderfynol ei fod yn teilyngu sylw mwy- af difrifol, a chefnogaeth mwyaf gwresog, pob un a garo ei wlad a'i genedl, ac yn addaw i ni, fel y cyrhaedder yr amcan mewn golwg ganddo, les an- nhraethol. Ni fynem,er dim, awgrymu unrhyw beth a allai dueddu i wan- hau breichiau y rhai sydd yn llafurio gydag ef. Ein dymuniad o'n calon yw, ar iddynt fyned rhagddynt a ffynu. Yr un pryd, nid ydym heb ofni, weithiau, rhag i ni, yn ein pryder dros yr achos hwn, fyned yn ddiofal yn nghylch llygredigaethaueraill.mor rymus,os nadllawn mor gyhoeddus.sydd yn ffynu yn ein plith;—llygredigaethau sydd yn gwreiddio mewn tueddiad- au dyfnach yn ein natur, yn fwy neillduol yn perthynu i ni fel cenedl, ac yn anurddo mwy ar ein cymeriad yn ngolwg cenedloedd eraill y byd. Y mae eisieu i ni fod hefyd ar ein gwyliadwriaeth rhag syrthio i'r un perygl gyda golwg ar ymosodiadau yn erbyn y gwirionedd yn ein gwlad. Y mae y dull llechwraidd ac ystrywgar a arferwyd am flyneddau gan rai yn dwyn enw gweinidogion eglwys Brotestanaidd, i daenu prif egwyddorion Pabyddiaeth yn ein plith, a'r rhuthr haerllug a wnaed gan y pab ei hunan, yn ddiweddar, er ceisio ein dwyn fel teyrnas dan ei iau orthrymus, o'r diwedd, dybygem, yn dechreu cael eu teimlo yn lled gyffredinol. Y mae Pabyddiaeth wedi dyfod, i raddau mawr, yn wrthddrych dial y lliaws. Y mae teimlad Pro- testanaidd y deyrnas wedi ei gynhyrfu i'r byw. Cynnelir cyfarfodydd,taen- ir traethodau, traddodir darlithiau, arferir pob ymdrech, er egluro natur a thwyll y grefydd Babaidd, ac er arfogi meddwl y wlad yn ei herbyn. Y mae pob graddau fel yn cyduno i edrych à llygad gwgus arni. Y mae hyd yn nod y seneddwyr hyny, oeddent yn dychymygu y gallesid ei denu trwy wobr i newid ei natur, ac i ddyfod yn ddarostyDgedig i'w hamcanion|hwy,