Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OR %îrft0ratrm IRìsûI ai ttmsaîtaáft fcááírriaííft a lardtoia^ft êptrdg. DAN OLYGIAETH DEWI ALAW A D. EMLYN EVANS. CYHOEDDEDIG AB. Y CYNTAF O BOB MIS. Rhif 1. MEDI 1, 1872. Pris 2g. At ein Darllenwyr. Anwyl Gyfeillion,— Dyma y Gerddorfa wedi gwneyd ei hymddangosiad ar y maes Llenyddol. Dichon eich bod yn barod i ofyn pa beth nen bethau a fwriadwn wneyd yn y dyfodol mewn cyssylltiad â hi. Wel, bwriedir i'r Gerddorfa i ddyfod atoch jn fisol, gyda Cherddoriaeth a Barddoniaeth goethedig a gwreiddiol perthynol i Genedl y Cymry. Credwn fod gwir angen am gyhoeddiad o'r fath a fwriedir i hwn fod. Y mae Cyfrolau o Gerddor- iaeth a Barddoniaeth na welant olen dydd yn dragywyddol, heb gael rhagor o gyfryngau nag sydd ar y maes yn bresenol. Ystyriwn fod dyled- swydd arnom fel cenedl gerddorol, i feithrin mwy ai' wahanol arddulliau o Gerddoriaeth. ÜSTi welir ac ni chlywir ond y Ganig byth a hefyd. Pa beth yw y rheswm neu y rhesymau a ellir roddi dros hyn ì A ydyw chwaeth naturiol cenedl y Cymry at Gerddoriaeth ysgafh o arddull y Ganig? Credwn nad yw; onid yw hen Alawon cenedlaethol em gwlad yn profi nad yw, ac onid yw ein Canigau yn dwyn mwy o nodwedd ac arddull yr Anthem a r Gydgan nag o'r Ganig, yn ol yr ystyr briodol. Wel, y mae yn eithaf naturiol i ail ofyn yr achos paham a pha fodd yr aeth ein hawdwyr Cymreig i gynyrchu dim ond Canigau gydag ychydig eithriadau ì Efallai y gellir rhoddi rhagor nag un rheswm dros hyn; yn un peth am fod tuedd yn em prif Gerddorion i foddloni y dosbarth iselaf eu chwaeth, a mwyaf eu hanwybodaeth, yn hytrach na boddloni eu hunain, yr hyn ni wnaeth gwir athrylith erioed o'i bodd. Fel rheol ni cheisiodd Handel, Bach, Mozart, Beethoven, Mendelssohn, &c. ddarostwng eu hunain er boddio chwaeth a theiml- adau y werin a gyd-bres wyliai â hwynt; boddloni chwaeth a theimladau eu hunain a wnaent hwy, gan ddiystyru gwawd y rhai hyny na allent werth- fawrogi peroriaeth uwchraddol. Ond fel yr ydym wedi awgrymu yn barod, prif bwnc y Cymro fynychaf ydyw ceisio boddhau y werin Gerddorol, er gwneyd ei hunan yn boblogaidd. Ni ddylai y pethau hyn fod. Bheswm arall fod cymaint o gyfansoddi Canigau yw—Mai am Ganigau y cynygir gwobrwyon braidd yn mhob Eisteddfod yn y blynyddau diweddaf hyn; a'r gwobrwyon hyny wrth gwrs yn ddigon bychain. Ac y mae yr awydd am gystadlu wedi myned mor gref fel nad oes dìm ond Canigau yn cael eu cyn- yrchu o'r naill flwyddyn i'r Ilall. Gall pwyllgorau Eisteddfodau wneyd gwasanaeth yn y cyfeiriad hwn drwy gynyg gwobrau rhesymol o hael am Unodau, Deuodau, Triodau, Anthemau, Cydgânau, &c. Yr ydym ni yn golygu i'r Gerddorfa i fod yn gyf- rwng i ddwyn allan Gerddoriaeth amrywiaethol. Y Ganig, bid siwr, i gael ei chynrychioli, fel pob arddull arall o gyfansoddiad ; ond nid i gael mwy o'n gofod na'r Bhangan, yr Anthem, a'r Gydgân. Addawwn yn mhellach, os ca y cyhoeddiad gef- nogaeth ddigonol, y bydd iddo gynwys gwersi addysgiadol i'n Cerddorion ieuainc, a bydd i'r Gerddoriaeth fod yn y ddau nodiant, fel y gwelir yn y Rhifyn presenol. Gyda hynyna at ein Cyfeillion Cerddorol, y mae genym air neu ddau at ein Cyfeillion y Beirdd. Rhoddir erthygl arbenig i'r perwyl hwn yn y Rhifyn dyfodol; yn unig ychwanegwn yn y fan hon, os oes eisiau cyfrwng Cerddorol o'r fath a nodwyd, yn bendifaddeu y mae mawr angen am y fath gyfrwng at wasanaeth yr hyn ydym wedi enwi yn Farddoniaeth Gerddorol. A chyda'r braslun hwn o'n dybenion, nid oes genym ond gobeithio y rhyglyddwn gefhogaeth pawb ag sydd yn caru fìỳniant Cerdd a Chân ein hen wlad.