Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BAN OLYGIAETH DEWÍ ALAW A D. EMLYN EVANS, CYHOEDDEDIG- Aít Y CY"NTAF O EOB MIS. Bhif 9. MAI 1, 1873. Pris 2g. ENCORE! ENCOREü Diameu fod y gair uchod,—er mai un tramoraidd ydyw—yn ddigon adnabyddus i'n darllenwyr; diameu heí'yd fod ei ystyr yr un mor wybyddus i'r mwyafrif o honynt, o'r hyn leiaf yr ydym yn coleddu'r gobaith fod ein cyfeillion, heblaw bod yn gerddorol, yn rhai myfyr- gar a deallus: ond o'r ochr arall, yr ydym yn llawn mor—os nid mtvy—argyhoeddedig fod nifer luosog o fynychwyr ein cyngherddau. yn defnyddio'r gair fel math o " ddilyn y fîasiwn," heb wybod o gwbl ei wir ystyr ; fod adran arall o honynt yn ei ddefnyddio heb feddwl dim am briodoldeb y cyfryw ddefnyddiad; un arall etto heb ofalu nemawr am ei resymoldeb; ac un drachefn yn hollol annibynol o'i haeddiant. Llawer gwaith mewn cystadleuaeth Eisteddfodol y gwirir ein gosodiad cyntaf; "encore" meddai rhyw anwybodusyn ar ol i ymgeisydd "ddarllen ar olwg gyn- 'taf," heb wybod fawr fod elfen hanfodol cystadleuaeth a'r hyn a gr'ia, yn hollol annghymodawl. Pa sawl gwaith etto y merwinwyd ein clustiau, a'n teimladau, gan leisiau aflafar cynrychiolwyr yr ail ddosparth; dyma'r bobl a waeddant eu "hetto" ar ol " He was despised," yn nghanol y "Messiah," neu " 0 rest in the Lord," yn yr " Elijah ! " Os nad yw eu haddysgiaeth gerddoiol yn ddigonol i'w galluogi i ganfod fod eu cythrwfl yn dinystrio cyíanrwyddy cy- fansoddiad, does bosibl nad ydynt yn íeddianol ar ddi- gon o synwyr i ganfod eu bod yn aflonyddu ar wran- dawiad pobl ereill, ac yn taflu sarhad ar natur yr hyn a gênir, yn enwedig os mai cyssegredig fydd? Byddai yn llawn mor briodol dweud 'encore' ar ganol gweddi neu bregeth. Heblaw fanmhriodoldeb y gwrthuni hwn, nid oes dim yn fwy amlwg na i afresymoldeb. Bydd ar y Rhageirlen efallai ryw ugain—mwy neu lai—o ddar- nau; dechreuir y gyngherdd o bosibl am wyth o'r gloch, a bwriedir iddi fod drosodd yn amserol, o fewn i'r ddwy awr, ond yn lle hyn—diolch i'r ' ail-alwadau,' —ni orphenir cyn yn agos i ganol nos, a thrwy hyny gwneir angyfiawnder a'r rhan olaf o'r program, teflir diflasdod ar y gyngherdd, a thynir y sefydliad i anfri. Ond nid yw hjn ond un rhan o'r afresymoldeb; dro yn ol yr oedd a fynom a chyngherdd, yn'yr hon y cânai un o brif faritonwyr y byd, ac yn ol y rhageirlen yr oedd iddo ganu bum-waith, ond o herwydd teimladau grasusol y gwrandawyr (a'i deiraladau caredig efei hun), cafodd yr anrhydedd (?) o ganu naw o weithiau! Chwi weithwyr Cymru, o herwydd i chwi wneuthu." eich gwaith o bum diwrnod mor foddhaol, a gewch yr anrhydedd o'u " hencorio " am yr un pris ! Yn olaf, ei haeddiant—neu yn hytrach ei ««-haedd- iant. l'r sylwgar, nid oes dim yn fwy eglur nagmai rhyw dric, neu " sleight of hand " yn fynych sydd yn ' dod lawr a'r ty '; siglnod darawiadol, nodyn neiiìduol oranuchder neuisder; brawddeg hynod, parthcryf neu wan, &c , dyna dyn sylw "duwiau'r oriel" ! Neu efallai rywbeth digrif, disynwyr, megys " Champagne Charlie," " Dolly Varden," &c, neu waeth fyth, yr yr hyn a ífinia ar yr anygfreithlawn a'r anweddaidd na wnawn ddifwyno ein tudalenau drwy eu henwi; ond mae'r ffaith bruddaidd yn aros, mai pethau gwagsaw, diddim, didda o'r fath hyn sydd yn cael y derbyniad gwresocaf yn ein cyngherddau a'n heisteddfodau. Etto, mae y rhai hyny o honom ag ydynt yn gwybod rhywbeth am y " tu ol i'r llen," yn gwybod hefyd fod a fyno cyfeillgarwch a phartiaeth a nifer luosog o'r ail- alwadau a gìywir yn ein cyngherddau, weithiau mai y tric yn ddigon noeth ac amiwg i bawb, drwy fod rhyw ddyrnaid o bobl mewn man neulìduol o'r ystafell drwy eu gorawydd ystwrllydd yn gadael y 'gaíh o'r cwdyn.' Am boblogrwydd y tí'asiwn hon o 'encorio,' yr ydym yn beio yn benaf ein oantorion a'n harweinyddion; Elysiam