Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GERDDORFA: Cijícljgnttoit gttsal aí toaaẃuútjj tebtat&etjj a §aròìrmttattlj <%mpt0. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAP O BOB MIS, Rhif 14. HYDREF 1, 1873. Pris 2g GOLEUNI Y BYD. Credwn nad oes dim ar hyn o bryd yn íwy teilwng o sylw y byd cerddorol na'r draethgan (oratorio) newydd sydd yn dwyn y penawd uchod, yr hon a ddatganwyd dan arweiniad yr awdwr galluog, Mr. A. Sullivan, yn Ngwyì Gerddorol Birmingham, ar yr 24ain o Awst diweddaf. Gwnaed amryw gynygion gan wŷr o dalent i gynyrchu traethgân erbyn Gwyliau Cerddorol Bir- mingham, a fyddai yn deilwng o'u rhesu gyda y gorchestwaith mawrhwnw, sef yr Elijah, yr hwn sydd wedi gosod bri oesol ar y gwyliau uchod. Dyna Sir Michael Costa, gyda'i "Eli" a'i "Naaman" yn yblynyddau 1855 a 1864, yn cynygathyn; ond daeth y prif griticyddion allan, yn cael eu cefnogi gan y Publio Opinion, i gyhoeddi eu hanathema uwchben EIi a Naanian, druain, a chawn y mwyafrif a honynt yn rhy gydwybodol i'w rhesu hyd y nod yn yr ail ddosbarth. Erbyn y flwyddyn 1870, gwnaeth Sir Julius Benedict grand attempt i'r un cyfeiriad, gyda'i "St. Peter," ac y mae yn ddiamheu mai Syr Julius fu yr agosaf i gyrhaedd yr amcan. Ond rhy brin y bu yntau i gyrhaedd nod mor uchel. Yn ngwyneb y methiantau hyn o bob cyfeiriad, yr oedd yr oes hon wedi myned mor bell i wanobaith, ac i gredu na chaem ni y fraint o gydoesí â'r un traethganwr a alla1 gynyrcbu dim yu ail i Handel, Bach, Haydn, Beeth- oven, na Mendelsshon. Oddiar farwolaeth yr olaf y mae y deyrnas gerddorol wedi ei gadael heb yr un brenin cerddorol. Ond bellach, yn ol barn y prif griticyddion, y mae genym sail i obeithio y ceir yn Mr. Sulliyan olynydd teilwng i'r dyn mawr hwnw, Mendelsshon, Y mae " Goleuni y Byd" yn ddramatic o ran ei chymeriad. Gan mai Crist yw ei phrif ganolbwynt, ac mai detholion o'r Beibl yw y geiriau, yr oedd gan Mr. Sullivan dipyn o anhawsder i gadw rhag myned i dir ereill. Dyna y Messiah ar un llaw iddo, "Y dyoddef- aint." gan Bach ar y llaw arall; ond y mae wedi Hwyddo yn ei gynllun doeth i gadw o diroedd y ddau brif feistr. Cymera ef olwg ar Grist yn ei àgweddau dynol, a egîurir gan amgylchiadau utíiengyrchol ar y ddaear, y rhai a berthynent yn neilîduoli'w briodol- eddau fel Pregethwr, Meddyg, a Phrophwyd. Yn diweddu gyda'i fynediad buddugoliaethus i Jerusalem. Yn yr ail ran gyda dywediadau yn cynwys ei dystiol- aethau am dano ei hun fel Mab Duw, y rhai a enynai ddigofaint eithafol Ei elynion ato, nes arwain y llyw- odraethwyr i ymgynghreirio i gynllunio ei fradychiad a'i angeu; y mynegiad dwys o gydgan ei ddyoddefaint ar grediniaeth o'i wobrwy olaf; trallod Mair Magdalen wrth y bedd; a chysur a choncwest ydysgyblion trwy adgyfodiad eu Harglwydd I Ar ol arweiniad pro- phwydoüaethol wedi ei gymeryd o Esaiah—y prophwyd efengylaidd, y mae yr olygfa gyntaf yn cael ei gosod i lawr yn Bethlehem. Y mae y bugeiliaid yn gwylio eu praidd liw nos, pan ymddangosodd angel iddynt, gan ddwyn newyddion da am enedigaeth y Ceidwad addawedig. Hwythau yn myned i Bethlehem, gan fyfyrio ar gyflawniad y prophwydoliaethau am Grist. Y Fair Forwyn yn ateb ei anerchiadau gan dywallfc eu diolchiadau am ei ffafr, ae yn ymadael gan ogon- eddu Duw. Cynwysa y gweddill dderbyniad o rybudd yr angel i rieni Iesu o fwriad Herod, galar a chysur Rachel, yn Rama, ac addewid o fendith ar y plentyn. Y mae y golygfeydd blaenorol yn cael eu trin fel y canlyn,— Nasareth.—'Ein Harglwydd yn ymddangos yn y Synagog, ac wedi darllen rhan o Brophwydoliaeth Bsaiah, yn cyflwyno ei hun i sylw ei wrandawyr fel gwrthddrych y prophwydoliaethau. Ar eu gwaith yn arddângos eu rhyfeddod a'u hanghrediniaeth, y mae yn eu ceryddu oblegyd hyny, a hwythau o herwydd ei amrywiol enghreifftiau o ffafr Duw tuag at y rhai yr edrychent hwy yn ddirmygus arnynt, mewn nwydau ys Ei. yru allan o'r synagog. Yntau wedi ei adael gyda'i ddysgyblion yn unig, y rhaiagyhoeddent eu ffydd yncìclo, yn eu hanog i ddyoddef eu herlid- igaethau mewn addfwynder, ac i beidio barnu fel na'u barner, gän ymddiried i gyfiawnder anff'aeledig Duw. tjazarus,—-Crist, wedi Ei hysbysu fod Lasarus yn glaf, yn mynegy ec «arierfyniad i fyned ato. Uu o'r