Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jcii -T XÌu • Ciìltíjgriitim Jtbol at toasitnattb CeiìJfjaiẃtjj a Ijarfobottiaeifr (Sptóg. CYHOEDDEDIG AJR Y CYNTAP O BOB MIS Ehif 47. CYF. IV. GOEPHENAF 1, 1876. Pris 2g Y LLAIS DYNOL, EI ANSAWDD, A'K OFFERYN A'l CYNYEOHA. O bob peiriant a wna i fyny y cyfansoddiad dynol, nid oes nn wedi achosi cymaint o groes-ddadlu yn mysg anian-draethwyr, nac ychwaith wedi rhoddi bodolaeth i gynifer o wahanol dybiau gyda golwg pa fodd y cyfiawnant eu gwahanol swyddi, na'r peiriant lleisiol. Y mae o bryd i bryd wedi cael ei ystyried fel gwynt offeryn, corsen-offeryn, ac fel tant-offeryn, ac yn ddiweddar fel pob un o honynt. Ond y farn f wyaf boblogaidd o berthynas iddo yw, mae tant-offeryn ydyw; a'r rhesyinau a ddygir dros y dyb hon ydynt, 1. Ei fod wedi ei ddarparu a chortynau tebyg i danan3 pa rai a ddirgrynant yn gyfí'elyb i eiddo offeryn tanawl wrth gynyrchu sain. 2. Ei fod yn cynwys offeryn cyhirol er byrhau ac estyn, neu dynhau a llacâu y cortynau hyny. 3. Mai i estyniad neu fyrhad y cortynau y mae y llais yn ddyleäus am ei raddeg. 4. Er proii hyn, nid oes eisiau ond dynystrio y cortynau er llwyr ddynystrio y llais. Fel cadarnhad i'r dyb hon, cawn i Ferrein yr hwn sydd awdurdod uchel mewn ymchwiliadau o'r fath, gael ei daraw a'r hyn a ymddangosai iddo ef, yn gyf atebiaeth rhwng dirgryniadau lleisiol (vocal ligam- ents ) ag eiddo tanau offeryn tanawl, fel y darfu iddo ar unwaith eu galw "y cortynau lleisiol," ac ymdrechai gyfrif yn hollol am lais ar yr eglurhad a roddai ar weithrediadau y cyfryw. Er sylfaenu yr un dyb, gwnaed ymarfer-brawfiadau (experiments) gan y profl'eswr Willis ar ddarnau o ledr ac india rubber. Gosododd lafnau teneuon o'r defnyddiau hyn ar bib wedi ei chysylltu a megin organ, y rhai yn ol ei farn ef a gynyrchasant sain mor debyg i'r llais dynol ag i ateb pob dyben ymchwiliadol. Yna byrhaodd hwynt i haner eu hyd cyntefig, a chynyrchasant sain wythawd yn uwch na'r un flaenorol. Gwnaeth hefyd brawf cyffelyb a chorph marw, ac wedi byrhau y gi-rwymyn- au lleisiol ar yr un egwyddor a'r lledr a'r india rubber yn y prawf blaenorol cynyrchwyd yr un effaith, ac fylly daeth i'r penderfyniad ei fod wedi cael allan y dirgelwch perthynol i'r llais dynol, ac mae offeryn tanawl sydd yn ei gynyrchu, ac mai ar fyrhad ac estyniad, neu dynhad a llacâd y gi-rwymynau lleisiol yr ymddibyna am ei raddeg. Ond bernir bod y farn yna yn hollol gyfeiliornus a cheisir profi hyny cyn myned yn mlaen i sylwi ar y tybiau ereill a goleddir gan awdwyr ar y mater. 1. Nid oes y tebygoirwydd lleiaf rhwng y gi-rwymynau Ueisiol 'a chortynau, neu danau, y rhai o ran ffurf ydynt wyneblyfnion ac hir-onglog, ac nid yn grynion fel cortynau neu danau. 2. Nid ydynt yn dirgrynu wrfh roddi sain fel y gwna tanau, oblegid pan edryclnr arnynt yn cyflawni eu swydd trwy feudag-ddrycìt,. ni welir yn eu gweithrediaclau y radd leiaf o debygol- rwydd i eiddo tanau; ond ymffurfiant yn ymyláu tewion a chrynion, yn gyffelyb i'r gwefusau wrth gynyrchu sain ar y chwibanogl. 3. Nid yw ymarfer-brawfiadau y Proffeswr Willis yn un prawf gwirioneddol ar y pwnc oblegid (1 ) nid yw ffurfìad y peiriant lleisiol yn ein harwain i gredu mai yr un modd yr effeithir arnynt gan natur ag y frinwyd hwy ganddo ef, ond yn hollol i'r gwrthwyneb, oblegid y mae gwahaniaeth o'u defuydd- iaeth ( anatomy) yn profi hyny yn anmhosibl. 2. Nid yw yr hyn a ymddengys ac a gynyrchir gan rhyw beiriant o gorff marw, pan fyddo y gwaed wedi fferu a'r ystwythder cynenid wedi ei golli yn un arddang- oseg gwirioneddol o'r hyn ydyw, ar hyn a gynyrcha pan fyddo bywyd yn y cyfansoddiad. (3) Nid yw y íFaith iddo gael i'r lledr a'r india rubber yn nghyd a'r beudag gynyrchu sain wythawd yn uwch wedi eu byrhau i'r haner yn profi dim ond yr hyn oedd yn hysbys yn flaenorol, sef fod ffilionenau pa un ai wedi eu lledu fel tabwrdd, neu wedi eu hestyn a'u cordeddu fel tanau, yn cynyrchu sain trwy beru iddynt ddirgrynu, a bod graddeg y sain hono yn dibynu ar hyd neu dyndra y cyfryw bilionenau. Ond gan nad yw wedi profi i foddlonrwydd i'r ymchwilgar mai offeryn o'r fath yw y beudag dynol, nid yw ei ddarganfyddiad o un gwerth ar y mater dan sylw.. (4) Ond a chaniatau (er mwyn rhesymu) mai tant offeryn ydyw, y mae yn rhaid cael rhywbeth yn nghyfansoddiad y beudag i gadarnhau hyny, cyn y gellir derbyn y fath dyb gyda gradd o sicrwydd. Ac os mai y gi-rwymynau ydyw y tanau, a ydynt yn meddu ar ddigon o gyflawnder o ran mesur i gynyrcîtu y cwmpas hyny a geir yn y Uais! Y mae i'r crwth—y perffeithiaf o'r tant offeryn sydd yn ein rneddiant— bedwar o danau yn mesur o leiaf ddeuddeg modfedd, yr un, a chwmpas unol pedwar yw o G, islaw erwydd y Sopraìio i G ar y bedwaredd linell uwchlaw yr un erwydd, ac nid yw y cwmpas yma ond yr hyn a geir yn Malle. Patti, Ilma di Murlca ac ereill. Pa fodd gan hyny y gellir tybied yn rhesymol y cynyrcha y gi-rwymynau lleisiol y cyfryw gwmpas tra nad ydynt yn gyfartal mewn hyd i'r hyn a gymerir i gynyrchu un nôd ar danau y crwth ! Wedi hir amser methodd y byd ymchwilgar *c