Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GERDDORFA: €gkt$ratott Iftîsal at toasattattjj €txìẁaxmfy a gar&tomiaítfr êgmrug. CYHOEDDEDIO AR Y CYNTAP O EOB MIS 7t Rhif^T CYP. VI. Pris 2g 'fífẃÌM ORIEL Y PRIF FEISTRI. B E E T H O V E N. Daeth Beethoven yn fuan yn gyfarwydd a dinas Vienna. Yma y clywodd operas Mozart a Gluclc gyntaf; ac ni chlywodd weithiau Haydn yn cael eu datganu erioed mor ardderchog a chan gantorion disgybledig Yienna. Daeth yn fuan yn ddymuniad ei galon am gael byw yn y ddinas hon. O fel yr oedd wedi dymuno lawer gwaith am gael gweled y meistri hyny oedd a'u gweithiau wedi enill iddynt enwogrwydd digyífelyb, ac athrylith pa rai oedd wedi codi Vienua i fod yn frenines yr oes. Yr oeddWaldsteinynbersonoladnabyddusa Gluek,Haydn, a Mozart, ond ar y pryd y cyrhaeddodd ef a Beethoven i Vienna, yr oedd Gluck yn glaf, ac Haydn oddicartref, felly aeth amryw ddyddiau heibio cyn i ddymuniadau Beethoven gael eu sylweddoli yn gyflawn. Modd bynag, cysurodd y Count ef gyda'r addewid y buasai yn ei gyflwyno i Moaart, .er yr ymddangosai fod rhyw anhawsder ar y flbrdd i hyny. Cynghorodd Waldstein Ludwig i beidio oedi cyflwyuo ei lythyr cymeradwyol i'r Ymherawdwr. Addawodd y llanc wneud hyny, er y gallasai addef y buasai yn well ganddo gael ei gyflwyno i dywysog peroriaeth. Yn unol a chyngor Waldstein efe a frysiodd un diwrnod tua'r palas Ymherodrol, er cyflwyno ei hun i'r Ymerhawdwrr. Teimlai Ludwig dipyn yn swil wrth feddwl am fyned i bresenoldeb rheolwr yr ymherodraeth Germaidd. Fel y safai o flaen y palas, ac yn myfyrio pa beth a ddywedai wrth yn Ymheraw- dwr, daeth dyn o ymddanosiad cyffredin tuag ato, efellai wedi cael tynu ei sylw gan ffurf pen Ludwig ueu y llythyr a ddalai yn ei law. " Pa le yr ydych yn myned?'' efe a ofynai i'r cerddor ieuanc. Edrychodd Ludwig yn graffary siaradwr, er cael deall pa un a oedd efe yn yn debyg i un a fuasai yn ei gamarwain. Ond yr oedd ei holl ymddangosiad yn gwneud ì Beethoveu deimlo ei fod yn garcdig a chywir. Yr oedd jrn ddyn bychan, tenau, o faintioli ^'anolog, ac o edrychiad serchog. Wedi cael ei fodd- loni yn ei ymddangosiad, atebodd IiUdwig " Ac yr Ymerhawdwr." '' A oes genych ddeiseb ?" "Na; llythyr o gymeradwyaeth." "Oddiwrth bwy?'*' "Oddiwrth frawd yr Ymerhawdwr, yr Etholwr Max Franz o ddinas Bonn.'' A allaf fì gwel ei weled ?' * Dangosodd Beethoven y Uythyr. Cafodd y dicthr» ddyn fod y cyfeiriad a'r sêl yn bur. " A pha beth ydych chwi?'' gofynai y boneddwr yn mhellach. "Yr wyf yn gerddor." '' Yn gerddor !" ail ddywedai y boneddwr. " Nid yw yr Ymerhawdwr gartref yn awr'' ychwanegair "ond am saith o'r gloch heno gellwch ei weled yn ugardd y palas hwn." "A ydych chwi yn adwaen yr YmerhawdAvr?" gofynai Ludwig. " O ydwyf !'' atebai y boneddwr. "Feallai eich bod yn un o'i eillwyr?" ebai y cerddor. "Yr wyf yn ei eillio weithiau," oedd yr ateb. " A ydyw jrn garedig, neu ynte yn chwerw,'» gofynai Ludwig. "Ni chewch ef yn un caled iawn i ymwneud ag ef' oedd yr atebiad; "önd fel cerddor, y mae yn un anhawdd i'w foddloni." '' Yr wyf yn gwybod ei fod yn gallu chwaieu yn weddol ar y berdoneg, ac nad ydyw yn lledwith gydar crwth, a'i fod hefyd wedi cyfansoddi rhai sonatasy ebai Ludwig. Ond nid yw arglwyddi jrn gyffredin yn mhell yn mlaen yn y gelfyddyd gerdd- orol ei hun. Dywedir ei fod wedi dangos Sonata o waith ei hun i Mozart, gan ofyn ei farn am dani, ac i Mozart ateb "mae y Sonata yn wir yn dda,. ond mae y sawl a'i hysgrifenodd yn well.'' "Dyna chwedl dda," ebai y dieithrddyn dan chwerthin; "ond mae yn rhaid i mi fyned." Cofiwch fod yma am saith y prydnawn hwn.'' Pan ddywedodd Ludwig wrth Waldstein am ei ymweliad a phalas yr Ymerhawdwr, efe a wenodd a chynghorodd Ludwig i gofio gwneud fel y dywed» odd y dieithrddyo.