Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deonglioit. Cyf. I.] IONAWR, 1903. [Rhif 1. GOLYGYDDOL. ARWYDD er daioni, ynglyn â'r Ysgol Sul, yw y symudiad sydd ai' droed tuag at addysgu athrawon. Pn bryd ni dyma angen mawr y sefydliad. A'u cymeryd yn y cyfanswm y mae yn amheus gennym a yw athrawon y dyddiau hyn yn rha- gori ar y rhai yn amser Charles, ac Ebenezer Richard. Gwir fod llawer o'r rhai hynny yn dra anfedrus, a rhai yn gymharol anwy- bodus : ond gwnaent iawn ani iiaws o ddiffygion trwy eu hymroad, eu zel, dwysder eu hargyhoeddiad, a'u dwfn grefyddolder. Ofnwn ani lawer o athrawon yr oes hon eu bod yn ychwanegu difaterwch at anghymwysder : nid yn unig nid ydynt yn medru, ond nid ydynt yn nialio : ychydig iawn o ddyddordeb a deimlant yn eu gwaith : edrychant ar lafur y dosparth fel tasg i fyned trwyddi yn hytrach nag fel pleser. Rhaid symbylu y math yma i ymdeimlad â'u dyledswydd, ac â'u cyfrifolcíeb i Dduw. Pechod anfaddeuol mewn athraw yw cyfarfod â'i ddosparth yn ddibarotoad. Dylai fod ganddo syniad gweddol glir am y gwirioneddau sydd yn dyfod o dan sylw, ac ani y modd goreu i egluro y gwirioneddau hynny, gan symud unrhyw anhawsder o bwys a ddichon godi. Hyn a'i galluogai i gadw yr ymdrafodaeth yn y dosparth o fewn cyìch y mater, fel ag i rwystro dadleuaeth anorffen, ynghyd â chwestiynaû dilês, ac i atal gorfanylwch a hollti blew. Nid oes dim yn sicrach i'n meddwl ni nag y dylai yr athraw gadw yr awennau yn ei ddwylaw, a bod yn ychwaneg na pheiriant i anfon gofyniadau o gwmpas : hyd yn nod pan yr arferir i bob un holi ar 'ei adnod, ì'haid i'r athraw ofalu parthed priodoldeb y cwestiynau, a'u bod yn dyfod gerbron yn y drefn briodol, ac na byddo ỳ drol yn cael ei gosod o tlaen y ceffyl. Ni byddai unrhyw anhawsder ynglyn â hyn ond cael yr athraw i ragbarotoi yn briodol,ac i wneud defnydd da o'r cynorthwyon sydd yn awr o fewn cyrhaedd pawb. Felly, yr ydyni yn croesawu y dosparthiadau canolog i athrawon, a sef- ydlir yn awr mewn rbai lleoedd, nid yn unig ar gyfrif y wybod- aeth ychwanegol ellir gyrhaedd trwyddynt, ac nid ynunig ychwaith ar gyfer yr hyfforddiant a roddant yn y gelfyddyd o addysgu, er fod y naill a'r llall o'r pethau hyn yn bẁysig :' onìl yn bennaf oll am y tueddant i ddwyn ein hathrawon i yìndeimlad á'u cyfrifoldeb. Dyma nôd angen Ysgol Sabbothol Cyìnru. Yr ydym