Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongluw. Cyf. I.] MAWRTH, 1903. [Rhip 3. GOLYGYDDOL. DRUAN o'r DEONGLWR ! Y mae yr euroclydon wedi chwythu arno, ac ar ei olygydd, a hynny o gyfeiriad hollol anis- gwyliadwy. Cyhuddir ni o ddwyn allan gyhoeddiad sydd yn cydymgais â'r Drysorfa, a dywedir ein bod yn amcanu tynnu dan ei sail, a lleihau ei chylchrediad. Ar air a chydwybod, nid oes, ac ni fu, gennym amcan o'r fath. Nid yw y ddau gyhoeddiad yn rhedeg o gwbl yn yr un cyfeiriad. Amcan y Drysorfa yw gwasanaethu y Cyfundeb yn ei gyfanrwydd ; ceidw mewn golwg yr holl linellau ar hyd pa rai y rhed ei egni. Y mae wedi gwneud hyn yn ystod y blynyddoedd a basiodd, ac y mae gennym bob sicrwydd y gwna hyn yn rhagorol, o leiaf, am bum' mlynedd eto. Nis geill roddi lle mawr i'r Ysgol Sul a'i gwaith ; yr oll a fedr fforddio yw Nodiadau ar y Gwersi perthynol i'r dosparth hynaf. Ond yr ydym ni yn argyhoeddedig fod yr Ysgol Sabothol yn sef- ydliad mor bwysig fel ag i hawlio cyfrwng neu gyfryngau arben- nig iddi ei hun, fel y gallo ei hathrawon gael hyfforddiant cyson, ac fel y gellir gwyntyllu gwahanol gwestiynau sydd yn dal cys- ylltiad â hi. Credwn fod yr Ysgol Sul yn awr mewn sefyllfa o drawsnewidiad. Dygir i mewn iddi ddulliau newydd o addysgu. Ceisir ei hail fowldio ar ffurf yr ysgolion dyddiol. Ac y mae yn bwysig fod ganddi, mewn argyf wng mor ddifrifol, gyfarwyddwr y geill ymddiried ynddo—un a fyddo yn alluog i'w harwain ar hyd yr iawn ffordd, a'i chadw rhag cyfeiliorni oddiar y llwybr a osod- wyd iddi gan ei sylfaenwyr. Ac am y credem, yn gywir neu yn anghywir, y meddem ryw gymaint o gymhwyster at y cyfryw orchwyl yr ymgymerasom â dwyn allan y DEONGLWR. * # Tybed y dadleuir fod y Drysorfa yn ddigon i bob amcan Methodistaidd, a bod dwyn allan gylchgrawn arall yn wrthryfel yn erbyn y Cyfundeb ? Os gwneir, yna rhaid pasio dedfryd o gon- demniad ar ein goreugwyr ; ar Dr. Lewis Edwards am olygu y Geiniogwerth; ar Edward Morgan oblegyd ei gysylltiad â'r Methodist; ar Thomas Levi a David Phillips am anturio cyhoeddi yr Oenig; ar W. Williams, Abertawe, ac Edward Mathews oblegyd iddynt fod mewn cysylltiad à'r Gylchgraicn; ar Islwyn fel golygydd yr Ymgeisydd; ar Dr. Charles Edwards oblegyd iddo feiddio