Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongltoi?. Cyf. I.] MAI, 1903. [Rhif 5. GOLYGYDDOL. PRAWF y ffugrau a gyhoeddir yn y newyddiaduron, nid yn unig mai ychydig mewn cymhariaeth a roddant eu presenol- deb yn y gwasanaeth crefyddol ar y Sul yn Llundain, ond fod eu nifer yn graddol leihau ; ac y mae lle i ofni fod yr hyn sydd yn wir am y brif ddinas yn wir hefyd am y rhan fwyaf o drefydd mawr y deyrnas. Gofynnir yn awchus gan liaws—beth yw yr achos ? Paham nad ä corff y boblogaeth naill ai i eglwys neu i gapel ? Ymysg llawer sydd wedi bod yn ddiweddar yn traethu eu llith ar y mater, cawn Dr. Sinclair, Archddiacon Llun- dain. Olrheinia ef y rheswm i lu o wahanol achosion. Un ydyw fod uffern wedi ei cholli o'r weinidogaeth. Dywed mai yn amser Whitefield a'r ddau Wesley y codwyd y wlad yn ei chyfanrwydd i wrando yr efengyl, ac un o nodweddion eu gweinidogaeth hwy oedd y pwyslais a roddent ar gospedigaeth dragywyddol. Iddynt hwy yr oedd uffern yn reality, a gwnaent y lle yn reaìity i'w cynull- eidfaoedd. Darlunient y pryf nad yw yn marw, a'r tân nad yw yn diffodd, gyda'r fath ddifrifwch angerddol, trwy gyfrwng cym- hariaethau a apelient yn gryf at y dychymyg, ac mewn iaith losg- edig a deifiol, nes y crynai y bobl fel dail yr aethnen, ac nis gallent lai na dyfod i wrando drachefn. Yn awr, meddai, y mae y Beibl wedi cael ei dafiu oddiar ei orsedd, y mae ofn llid Duw yn y dyfodol wedi ei golli, ac edrychir ar Gristionogaeth ei hun gydag amheuaeth. Rheswm arall a roddir gan yr Archddiacon yw dirywiad y gelfyddyd o bregethu. A defnyddio geiriau Americanwr, y mae gan y pregethwr nwyf ardderchog iw gynnyg, ond duffer hollol ydyw gyda golwg ar ei osod yn y farchnad. Ni chymerir trafferth ym mharotoad y bregeth ; nid yw yn aml ond cyfansoddiad masw, rhaffau o frawddegau wedi eu cydgysylltu, heb nac ysbryd na bywyd ynddynt. Achwyna nad yw y rhai a ordeinir yn cael nemawr o addysg ar gyfer y pwlpud, ac y dylent gael cwrs cyíiawn o addysgiant mewn cyfansoddiant ac areithyddiaeth. Cyfeiria at amryw achosion eraill, megys gwaith y Defodwyr yn pwysleisio ar hawliau offeiriadol, y lle a roddir ganddynt i wasanaeth corawl, ac yn enwedig i arfer mawrion ein gwlad o wneud y Sabath yn ddiwrnod arbennig o bleser,