Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deonglioi*. Cyf. I.] GORPHENAF, 1903. [Rhip 7. GOLYGYDDOL. LLAWENYDD nid bychan i bob Cristion yw gweled prif wyddonwyr y byd,y naill ar ol y llall,yn datgan eu ffydd mewn Creawdwr, ac yn ei reolaeth ar y byd. Y diweddaf i lefaru yn hyf a chroyw ar y pwnc yw Arglwydd Kelvin. Er i'r darllenydd gael syniad am bwysigrwydd tystiolaeth y gwr hwn, gwell i ni ddweyd gair o'i hanes. Ganwyd William Thomson—dyna ei enw cyn iddo gael ei ch1 chafu i'r bejidefigaeth—yn Belfast, Mehefìn 26, 1824, ac fell^ ^e yn fab pedwar ugain mlwydd namyn un. Bu ei dad, James ^homson, yn athraw mewn rhifyddiaeth yn Belfast, a chwedi hynny yn broffeswr mewn meintonaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Cafodd William yr addysg oreu a allai Ysgotland ei roddi ; yna anfonwyd ef i Gaergrawnt, lle yr enillodd enwogrwydd mawr, ac y daeth allan yn ail wrangler. Er's dros bymtheg mlynedd a deugain yn ol, cafodd ei apwyntio yn bro- ffeswr mewn athroniaeth naturiol ym Mhrifysgol Glasgow ; ac yno y mae, yn fawr ei barch, hyd y dydd hwn. Ymdaflodd ar unwaith i efrydiaeth ddwys o ddeddfau natur ; gwnaeth liaws o ddargan- fyddiadau gwyddonol o werth anarferol, yn enwedig ynglyn à gwefr. Darllenodd liaws o bapyrau o flaen cymdeithasau dysgedig, a dywedir fod ei bapyr ar ElectHcal Tmages wedi bod yn ddefnydd cynnydd dirfawr mewn gwybodaeth Avefrol. Cyhoeddwyd y papyrau hyn mewn tair cyfrol fawr. Oblegyd ei wasanaeth ynglyn â gosod y cable i lawr dan y Werydd, gwnaed ef yn farchog, ac fel Syr William Thomson yr adwaenid ef am beth amser. Yn y flwyddyn 1872, gwnaed ef yn Farwn Kelvin. Afrifed yw y graddau y mae wedi dderbyn, ac nidgan Brifysgolion y deyrnas hon yn unig, ond gan Brifysgolion pennaf y Cyfandir. Ei brif fensydd ydynt y gwefr a'r telegraff. Nid oes neb ar wyneb y ddaear i'w gymharu àg ef mewn dirnadaeth o alluoedd natur, ac o'r deddfau a reolant eu gweithrediadau. Cymaint a hynyna am y dyn, yn awr at yr hyn a lefarwyd ganddo. Cynnyg diolchgarwch yr ydoedd i'r Proffeswr Henslow, yr hwn a draddodai ddarlith mewn amddiffyniad i Gristionogaeth yng Ngholeg y Brifysgol yn Lundain. Y cadeirydd ydoedd Arglwydd Reay, ac yr oedd yr adeilad anferth wedi ei orlenwi.