Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Dconylipn. Cyf. I.] RHAGFYR, 1903. [Rhip 12. GOLYGYDDOL. UN o gymdeithasau lleiaf ein gwlad yw yr hon sydd yn dwyn y teitl, " Cymdeithas Pobl Ieuainc Cymru." Ychydig wyr am ei bodolaeth. Nid yw hithau yn dangos nemawr o arwydd- ion bywyd ond rhyw unwaith bob deuddeg mis, pan y cynhelir cyfarfod blynyddol, y traddodir areithiau, ac y darllenir papyr gan hwn, a*r llall, ac arall, amry w o honynt wedi cael eu dewis at y cyfryw orchwyl am reswm neu resymau sydd yn ddirgelwch i bawb. Yn y cyfarfod blynyddol diweddaf, darllenwyd papyr gan weinidog perthynol i'r cyfundeb Methodistaidd ar "Efengyl ym- arferiad corfforol." Nis gallwn mewn un modd gymeradwyo y penawd ; adgofia ni yn gryf o eiriau John Foster parthed grym camarweiniol a thwyll geiriau. Clywsom o'r blaen am efengyl goleuni, efengyl glanweithdra, ac efengyl darbodaeth ; yn awr, dyma un efengyl arall yn cael ei hychwanegu atynt, sef efengyl ymarferiad corfforol. Yr ydym yn protestio yn gryf yn erbyn halogi gair mor fendigedig ; yn erbyn dwyn gair sydd wedi cael ei gysegru yn nheimlad a chalon y genedl i lawr i lefel pethau cyffredin. Elfen wych yw goleuni; anhawdd canmol gormod ar lanweithdra, ac ardderchog o beth yw darbodaeth ; ond er mwyn iawn syniadaeth, ac er mwyn gweddusrwydd iaith, na alwer y pethau hyn yn efengyl; cadwer y gair yn sanctaidd i ddynodi trefn Duw i achub pechadur. Halogedigaeth arno yw ei ddef- nyddio mewn unrhyw ystyr arall. Nid ydym am gondemnio ymarferiad corfforol ; cydnabyddwn ei fuddioldeb, o fewn ter- fynau priodol, i glercod, Uanciau mewn ysgolion, efrydwyr mewn colegau, a phawb nad yw eu galwedigaeth yn rhoddi y cyfryw ymarferiad iddynt. Ond am weithwyr y wlad nid oes arnynt mo'i angen ; deuant hwy i fyny o'r pwll glo, neu allan o'r chwarel, neu ynte oddiar faes yr amàethwr, wedi cael ymarferiad ymron hyd at flinder. Iechyd i'r rhaì hyn fyddai mwynhau cymdeithas ddyddorol, darllen llyfr buddiol, neu fyned i gyfarfod crefyddol neu adlonnol. Gwir amcan y papyr, fel yr ymddengys i ni, oedd cyfiawnhau y cynulliadau poblogaidd presennol i gae'r bêl droed, ac i'r maes