Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDi** Cyf. IV.] IONAWR, 1906. [Rhip 1. GOLYGYDDOL, MEWN ysgrif o ganmoliaeth i lyf r newydd Dr. Vyrnwy Morgan gwna y Prifathraw John Rhys sylw y dylai Cj^mru ei osod at ei ehalon. Ei bwynt yw dangos fod y genedl yn gwaethygu parthed cydnabyddiaeth â'r Beibl. Gwell i'r Prifathraw gael siarad drosto ei hun. Meddai am wrandaẁyr efengyl y dydJ.iau hyn : "Er gwell neu er gwaeth y maent yn ymroddi mwy i ddarllen newyddiaduron, ac yr wyf yn credu eu bod yn llai cyd- nabyddus â'rBeibl Cymraeg. Gallaf ddangos hyn trwy ffeithiau ddaeth dan fy sylw i fy hun. Rai blynyddoedd yn ol, yn y dos- parthiadau Mabinogion oeddwn yn gynnal, pan fyddai cydnabydd- iaeth efrydydd â gair Cymraeg yn amheus, dywedwn weithiau : " Ni ddylai y gair yna fod yn ddieithr i chwi, y mae yn y Beibl, yn y fan a'r fan. Dygai hyn ef ar unwaith i'w gof ; ond yn awr ni ddwg cyfein'ad felly unrhyw adgof, nid oes digon o gyfarwydd- der â'r Beibl Cymraeg i fod o fantais." Nis gall unrhyw amheu- aeth fodoli gyda golwg ar gywirder y sylw uchod. Ac y mae yn brawf diamheuol fod y genedl ar lithrigfa. Ar gyfer anwybodaeth cynyddol o Air Duw deil y Prií'athraw wybodaeth eangach o gynwys y newyddiadur. Pob parch i'r papyr newydd, ni hofî'ein mewn un modd wneud ymgais i'w ddisodli. Dywedai Morgan Howells ei fod ef yn ei ddarllen er gweled pa fodd yr oedd Duwr yn dwyn ymlaen ei lywodraeth ar y byd. Ond, o'i gymharu â'r Tsgrythyr Lân, bychan yw ei allu dyrchafol. ac ni fedd y fìlfed ran o'i dylanwad i fowldio cymeriad cenedl. * * Awgryma y Prifathraw wii-ionedd arall, er nad yw yn ei ddweyd yn blaen, sef nad y w pregethwyr yr oes hon yn gwybod eu Beiblau fel yr hen efengylwyr a dramwyent trwy Gymru. "Yr oedd yr Efengylydd hen ffasiwn," meddai, "yn gwybod ei Feibl o glawr i glawr ; ond rhaid i bregethwr y dyddiau hyn gadw un llygad ar yr Ysgrythyr a'r llygad arall ar y Wasg." Eithaf gwir am yr hen bregethwyr. Gallent seíyll arholiad yn llyfr Lefiticus neu lyfrau'r Cronicl pe bai raid ; llawer gwaith y clywsom hwy yn manylu ar y gwahaniaeth rhwng aberth dros bechod ac aberth di os gamwedd ; a phwy o wrandawyr David Howelis, Abertawe, nad ydynt yn cofio am dano yn gwahaniaethu rhwng Jehoiacim a Jehoiacin ?