Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDit. Cyf. IV.] GORFFENNAF, 1906. [Rhip 7. GOLYGYDDOL. NID ydyni am gypaeryd rhan yn y ddadl gyda golwg ar y Mesur Addysg sydd yn awryn cynhyrfu y wlad, er ein bod weithiau yn eael ein temtio yn gryf i wneud, oherwydd fod y fath doraeth o druth gwirion yn eael ei siarad. Ond ynglyn á'r ddadl, ac fel tyfiant allan o honi,y mae un cwestiwn o bWys wedi codi ei ben, sef perthynas y Beibl a'r Eglwys. Yr ydym yn gweled tuedd mewn un dosbarth i ddarostwng ýr Ysgrythyr, ac i ddyrchafu yr Eglwys fel pe ym meddu uwch awdurdod. Yn awr, ni fedr nel) o glerigwyr nac aelodau yr Eglwys Sefydledig fod yn enog o'r amryfnsedd hwn iieb redeg yng ngwddf erthyglau ffydd y cyfundeb i ba un y mae yn perthyn. Fel na byddo camgymer- iad ar y mater ni a ddyfynwn eiriau Erthygl vi. allan o'r Deugain Erthygl namyn un :—u Y mae yr Ysgrythyr Lân yn cynwys pob peth angenrheidiol i iachawdwriaeth ; fel nad ydys yn gofyn bod i neb gredu beth bynnag na ddarlienir ynddi, neu na ellir ei brofì oddiwrthi, megys erthyglo'r ffydd, na'i fod yn augenrhaid i iach- awdwriaeth.'' Gyda golwg ar awdurdod yr Eglwys dywed Erthygl xx., "Y mae i'r Eglwys allu i osod defodaa a seremoniau, ac awdurdod mewn ymrafaelion ynghylch y ffydd, ac eto nid cyf- reithlon i'r Eglwys ordeinio dim sydd yn wrthwyneb i Mr Duw, ac nis gali felly esbonio un lle o'r Ysgrythyr Lân fel y bo yn wrthwyneb i le* arall." Dysgir yn ddiamwys yn yr erthyglau hyn mai yr'awduidod uchaf gyda golwg ar yr hyn sydd i'w gredu yw y Beibl, ac na faidd yr Egìwys ddysgu dim sydd yn wrthwyneb iddo. Yn awr, cyferbynner á'r erthyglau yma eiriau Canon Beck mewn cyfarfod wedi ei alw i wrthwynebu y Mesur Addysg. Meddai y gwr parchedig :—" Syniad yr Ymneillduwyr gyda golwg ar Gristionogaeth ydyw fod Cristionogaeth yn grefydd llyfr ; mai sail gyntaf a phennaf y grefydd Gristionogol yw y Beibl. Nid dyna olygiad yr Eglwys. Cristionogaeth yn ol golygiad yr Eglwys sydd yn flaenaf a phennaf yn grefydd cymdeithas, y corff byw ac ysbrydol i ba un y mae Crist yn ben bywiol. Nid y Beibl rodd- odd fôd i'r Eglwys, yr.Eglwys roddodd fôd i'r Beibl! ^ Swyddogaeth yrEglwys yw dysgu, eiddo y Beibl yw profi." Os