Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDit. Cyf. IV.] AWST, 1906. [Rhif 8. GOLYGYDDOL. YN y rhifyn diweddaf o'r Liberal Ghurchman, cyhoeddiad ag y mae y Canon Hensley Henson yn enaid a bywyd iddo, ceir ysgrif yn dwyn y penawd, " Plê dros Anenwadaeth." Awdwr yr ysgrif yw y Parch. H. Rashdall, offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Erbyn darllen gwelwn mai at anenwadaeth yn yr ysgolion, dyddiol y cyfeirir, ac felly bod a fynno yr ysgrif â'r ddadl boeth ar y pwnc sydd ym myned ym mlaen ar hyn o bryd. Nid yw Mr. Rashdall yn rhydd oddiwrth ragfarnau ei enwad, ac y mae yn ddigon gonest i'w cyfaddef ar gyhoedd. Yr ysgol a hofîai efe, pe bae amgylchiadau yn caniatau, f yddai ysgol ddyddiol enwadol, ym mha un y byddai erthyglau ffydd yr enwad yn cael eu hegluro a'u hamddiffyn, a hynny gan athraw fyddai yn credu athrawiaethau yr enwad yn ddiamwys. Medd gydymdeimlad dwys, ac nid yw yn ol o gyfaddef hynny, â syniadau Arglwydd Hugh Cecil parthed gwneud awyrgylch yr ysgol yn eglwysig, a geilw y rhesymau yn erbyn hyn yn arwynebol. Y mae yn glir hefyd nas gwyr nemawr am gyfìwr yr Eglwys yng Nghymru, oblegyd dywed am ansawdd grefyddol y deyrnas :—" Y mae lleiafrif mawr o'r boblogaeth—yma a thraw, yng Nghymru, er enghraifft, mwyafrif—yn Ymneillduwyr." Y mae dweyd fod yr Ymneillduwyr mewn rhannau o Gymru yn y mwyafrif gymaint islaw y íîaith fel y mae yn enghraifft o'r hanner gwir sydd yn fwy camarweiniol na chelwydd. Ceir rhannau o'r Dywysogaeth, Cwm Rhondda er esiampl, yn y rhai prin y gellir dweyd fod yr Eglwys Sefydledig yn bodoli. * Er hyn oll, medd yr awdwr doraeth o synwyr, ac y mae mewn rhai adrannau yn dangos gallu ymresymiadol cryf. Dengys fod addysg secularaidd yn y wlad hon yn amhosibl. Oblegyd golygai nid yn unig alltudio y Beibl o'r ysgol, ond llenyddiaeth yn gyff- redinol ; byddai yn rhaid croesi enw Duw a Christ allan o bob Myfr. Nis gellid darllen barddoniaeth Wordsworth yn y dosparthr o leiaf heb newid llawer arno, oblegyd geilw ef y gydwybod yn " stern daughter of the voice of God" Treiddia naws grefyddol drwy y lienyddiaeth oreu ; ac arweiniai alltudio yr elfen yma