Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongltpi?* Cyf. IV.] MEDI, 1906. [Rhif 9. GOLYGYDDOL. UN o bregethwyr goreu Lloegr yn ddiau yw Mr. Jowett, olyn- ydd Dr. Dale yn Birmingham. Heblaw meddu safle barchus fel meddyliwr, ynghyd â mesur helaeth o ddawn areithyddol, y mae yn drwyadl ffyddlon i ffydd yr efengyl.. Cawsom gyfìe ychydig wythnosau yn ol yn Llandrindod i'w wrando. Pregethai i gynulleidfa fawr noson waith oddiar y geiriau, " Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon," &c. Cychwynodd trwy alw sylw at wedd orchymynol y geiriau, "Ti a geri ; " yn Saesneg, " Thou shalt.'1'' Yna gofynnai, A ydyw serch yn gyfryw beth ag y gellir ei gynyrchu to orderì A elìir ei alw i fod trwy bender- fyniad syml o eiddo yr ewyllys ? Atebodd y gofyniad hwn yn nacaol, ond ychwanegodd ei fod yn bosibl i ddyn osod ei hunau dan y cyfryw amodau ag a fyddai yn tueddu i gynyrchu cariad. Nis geill gynyrchu y fflam fywiol, rhaid i honno ddisgyn i lawr o'r nefoedd ; ond geill adeiladu yr allor, a rhwymo yr aberth arni, fel ag i wahodd y tân. Pa feini a gyfansoddant yr allor ? Mewn geiriau eraill, pa rai yw yr amodau sydd yn tueddu yn gryf i ennyn cariad at Dduw ? Un yn unig gafodd ei henwi ganddo, sef adnabyddiaeth. * » Wedi condemnio y cellwair a'r gwawd gyda pha rai y cyfeirir yn fynych at y cariad rhwng y ddau ryw, sydd yn fynych yn terfynu mewn priodas, dywedai mai yn gyffelyb y cenhedlir car- iad at Dduw, ond ar plane anfeidrol uwch. Pan y gofynnir weithiau pa fodd yr enynwyd serch rhwng gŵr ieuanc a genneth, yr ateb geir yw, " Y maent wedi cael cyfle yn fynych i weled eu gilydd ; y mae y naill yn gwybod llawer am y llall." Dyiia hefyd amod cariad at Dduw, ei weled yn fynych ; cymdeithasu llawer âg ef. Ond pa fodd y geill un nad yw yn carn Duw, un sydd yn llawn gwrthnaws ato, weled yr Anfeidrol ? Y modd hwn, meddai y pregethwr ; trwy adael i'w ddarfelydd weithredu ar dystiolaeth y rhai sydd wedi cael adnabyddiaeth o'r Arglwydd. " Ewch," meddai, " y tu ol i lygaid Ioan yr Apostol, y tu ol i l.Ygaid John Bunyan, y tu ol i lygaid C. H. Spurgeon ; ac edrych- wch ar Dduw trwy eu golygon hwy." A dywedai fod hyn yn bosibl trwy weithrediad y dàrfelydd. Araìleiriai hyn fel myned