Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongluw* Cyf. IV.] HYDREF, 1906. [Rhip 10. GOLYGYDDOL. YMAE yr Eisteddfod yn gwella. Dyna farn unfrydol pawb oeddent yn bresennol yn Eisteddfod Caernarfon. Teimlid naws diwygiad yn yr awyr, yn enwedig tua chymydogaeth yr Orsedd, ynghyd â'r defodau cysylltiedig â hi. Gosodai Hwfa yn ei ddyddiau ef bwys mawr ar y seremoniau hyn ; nid oedd i'w weled yn ei ogoniant ond pan yn rafio yn eu canol, er y byddai yr ystyriol a'r eydnabyddus â hanes yn teimlo gwrthnawsat blentyn- eiddiwch y drafodaeth. Y mae Dyfed, yr Archdderwydd newydd, modd bynnag, o feddwl fwy cymhesur, ac o ysbryd mwy syml. Ei awycld ef yw taflu dros y bwrdd y llu defodau na pherthyn iddynt nac ystyr, nac urddas, na henafìaeth, ac nas gellir eu holrhain yn ol ym mhellach nag Iolo Morgannwg, os mor belled. A choíier ynglyn â'r Orsedd mai diwygiad sydd yn eisieu* ac nid dinystr ; ysgythru y cangau gwylltion i ffwrdd, ac nid gosod y fwyell ar wreiddyn y pren. Ond ei chadw o fewn terfynau cymhesur, a chyda defodau gweddus, medd yr Orseddgryn urddas, ac y mae yn apelio yn gryf at y cenhedloedd o'rt cwmpas, ac hefyd at deimlad gwerin Cymru. Cadwer pob peth teilwng perthynol iddi, a'r hyn sydd yn gydweddol â diwylliant y dyddiau hyn, ac nid ydym am ei gwneud yn foel a diaddurn trwy ei hysbeilio o'i ffurfiau henafol. Ond gwareder hi rhag yr isel, a'r ffol, a'r trystfawr. * * Ymddengys fod y gystadleuaeth eleni hefyd yn uwch nag arfer. Priodolai un hyn i'r ffaith fod addysg colegau Prifysgoì Cymru am y chwarter canrif diweddaf yn dechreu cael ei deimlo yn yr Eisteddfod. Ynglyn â'r awdl, yn sicr" cam yn yr iawn gyfeiriad oedd gadael i'r awdwr ddewis ei destyn. Cana y bardd yn well o angenrheich-wydd ar bwnc sydd wedi ymaflyd yn ei ysbryd, ac wedi tanio ei holl enaid, nag ar fater fydd yn cael ei gyflwyno iddo i ganu arno. Yn ol tystiolaeth beirniaid nad ydynt yn arfer gwenieithio, cyrhaeddodd awdi y gadair a phryddest y goron y tro hwn bwynt uchel iawn. Ac arwydd er daioni oedd y gwrandawiad astud a roddwyd gan y dorf i'r feirniadaeth ar y naill a'r llall; beirniadaeth fanwl a dysgedig, ac yn cymeryd cryn