Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDin Cyf. IV.] RHAGFYR, 1906. [Rhif 12. GOLYGYDDOL. TU hwnt i bob dadl bu agoriad y Coleg Duwinyddol yn Aber- ystwyth yn llwyddiant perffaith. Daeth torfeydd mawrion ynghyd ; canfyddem yno gynrychiolwyr o bob rhan o'r wlad ; clywyd llais yn dywedyd " wrth y Gogledd dos, ac wrth y Deheu nac atal." Ond nid oes a fynnom yn awr â hanes yr agoriad ; cafwyd hwnnw yn bur llawn yn y papyrau dyddiol, ac yn y papyrau wythnosol, yn enwedig y Goîeuad. Ein hamcan yw galw sylw at rai pwyntiau yn anerchiad agoriadol y Proffeswr Orr, yr hwn a ddaeth yn un swydd o Glasgow, trwy lawer o rwystrau, i'w draddodi. Pwnc Dr. Orr oedd " Lle Crist yn Syniadaeth y Dyddiau Hyn." Cychwynodd trwy ddweyd yr ymosodir yn ddiarbed, yn y wlad yma ac yn yr Amerig, ar yr athrawiaeth uniongred am Grist. Efe sydd heddyw yn cynhyrfu y byd. Nis gellir ei basio yn ddisylw a myned ymlaen. Cwestiwn mawr y byd y dydd hwn ydyw : " Beth a debygwch chwi am Grist ?" Oeir nifer mawr o ysgolheigion am ei ddihatru yn hollol o'r goruwchnaturiol; gwad- ant ei gynhanfodaeth, ei enedigaeth o wyryf, ei ddwy natur, ei wyrthiau, a'i adgyfodiad. Honnant nas geill y Crist ddesgrifir yn yr Efengylau fod yn hanesyddol. Ac eto addefant nas geill cref- ydd fodoli hebddo. Meddai un o honynt : " Gwedi Crist, Cris- ionogaeth yw yr unig grefydd bosibl." Cofier nad ydynt am amharchu yr lesu ; y niaent yn ei edmygu, yn plygu iddo, ac yn ei gydnabod, er nad ydynt yn ei addoli. Edrychant ar Dduw fel y Tad cyffredinol, ac ar yr Iesu fel y perffaith Fab, ond nid yw y gweddill ond cydymdeimlad. Yna gofynnai Dr. Orr, " A fedr Cristionogaeth fyw trwy yr ûoll ymosodiadau hyn ? " Dyma y cwestiwn sydd gan yr eglwys 1 w wynebu. Dywedai nad oes dim newydd yn yr athrawiaetb.au amheus hyn. Credai y Neo-Platoniaid yn y canrifoedd cyntaf tod yr Iesu yn ddyn da, a bod y moesoldeb a ddysgai yn haeddu P°b derbyniad. Hen gyfeiliornadau wedi cael dillad newydd, ac wedi newid ychydig ar eu hagwedd, yw yr heresi y cyfeiriai ati.