Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDit. Cyf. V.] MAWRTH, 1907. [Rhif 3. GOLYGYDDOL. YDDUWINYDDIAETH Newydd," fel y gelwir syniadau y Parch. R. J. Campbell, sydd yn cynhyrfu y byd crefyddol y dyddiau hyn. Dyma sydd wedi bod yn llenwi y newyddiaduron er's wythnosau, a mawr fel y maent wedi bod yn ymfflamychu ynglyn â'r mater, nid am eu bod yn malio pin o'u llawes am dano, ond daeth iddynt yn rhodd o damaid blasus ar adeg farwaidd, pan yr oedd ystwff i'w osod yn eu colofnau yn brin. Ni achosodd datganiad Mr. Campbell o'i syniadau un sjndod i ni ; gwelem er's amser ei fod yn yr ystyr hwn ar y llitlirigfa, a chyfeiriasom droiau trwy gyfrwng Y DBONGLWR at rai o'i syniadau anefengylaidd. Ond nis gwyddom ym mha ddosparth o dduwinyddion i'w osod, os nad yw, yn wir, yn ffuríìo dosparth ar ei ben ei hun. Dywed ef nad yw na Thrin- dodiad nac Undodiad. Am y dosparth mwyaf uniongred o'r Undodiaid, megys Martineau a Channing, gwyddom na wnaent ar unrhyw gyfrif arddel perthynas âg ef. A chan ei fod yn ymwrthod â'r enw Trindodiad, rhaid nad yw yn credu fod y Jehofah yn hanfodi yn dri o Bersonau. « # Anhawdd gwybod pa beth i'w wneud o'i ddatganiad o'i ffydd, neu yn hytrach o'i anffydd. I ni ymddengys ei olygiadau fel chaos cymysglyd a chawdelaidd, hollol amddifad o unoliaeth ; ac felly, yr ydym mewn mwy o berygl gwneud cam âg ef. Gallwn feddwl ei fod wedi colli ei afael ar Dduw fel bôd personol. Yr hyn y gesyd arbenigrwydd arno yw, The immanence of God, Duw yn oll-dreiddiol yn y greadigaeth. Ond dyma wirionedd y pwysleisir yn drwm arno gan yr eglwys efengylaidd, nad peiriant Avedi ei adael gan yr Arglwydd iddo ei hun yw y cread; yn hytrach fod y Duw mawr yn y greadigaeth, ac mai ei bresenoldeb ef ynddi sydd yn ei chynnal, yn ei chadw ynghyd, ac yn eifen fywiol a gweithgar o'i mewn. Cawn y gwirionedd yffca mewn ffurf bendant yn y Testament Newydd : " Ynddo ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod." Felly, nid darganfyddiad newydd o eiddo Mr. Campbell yw y gwirionedd y cyfeiriwn ato. Ònd beth am y gwirionedd cyferbyniol, fod y Jehofah yn berson byw,