Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deonglunt* Cyf. V.] EBRILL, 1907. [Rhip 4. GOLYGYDDOL, OER ac anghefnogol oedd y croesaw gafodd y Parch. R. J. Camp- bell, Apostol y Dduwinyddiaeth Newydd, yng nghyfarfodydd yr Eglwysi Rhyddion, y rhai a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Leeds. Gwir na chondemniwyd ei ddaliadau yn bendant, o ran hynny ni bu un- rhyw ymdrafodaeth arnynt, ond derbyniwyd ei araeth mewn dystaw- rwydd llethol, a rhaid y teimlai nad osdd ei ysbryd ef ag eiddo y cynrychiolwyr yn cydgynghaneddu. Gwedi iddo orffen cynygiwyd gan un fod y cyfarfod yn ail ddatgan ei ffydd yn Nuwdod Crist, ac oni bae i'r cadeirydd, Mr. Rendel Harris, reoli y cynygiad allan o drefn, y mae yn sicr y buasai yn pasio. Ond mynnodd y gynulleidfa, ar draws pob trefn, dorri allan i ganu yr emyn Saesneg adnabyddus, o ba un y mae yr emyn Cymraeg yn gyfieithiad :— " Wrth edrycb, Iesu, ar dy groes, A meddwl dyfnder D'angeu loes, Pryd hyn 'rwyf yn dibrisio'r byd A'r holl ogoniant sy' ynddo i gyd." Yn ddiau yr oedd yn teimlo fod y tymheredd wedi newid yn ddirfawr oddiar y cyfarfodydd blaenorol, pryd yr oedd ef yn eilun, a'r bobl yn tyrru ar ei ol, ac yn erogi wrth ei wefusau. Ni etholwyd mo hono ych- waith ar y pwyllgor gweithiol, ac yr oedd yr etholiad yn cael ei wneud trwy bleidlais ddirgel. Nid rhyfedd wedi dychwelyd yr awgrymai ei fwriad i gyfyngu ei lafur o hyn allan yr bennaf i'w eglwys ei hun. Ymddengys dau beth yn sicr i ni gyda golwg arno, sef fod ei haul wedi machlud a hi eto yn ddydd, ac nis gall aros ar y tir y saif arno yn bre- sennol. Yn y cyfarfodydd yn Leeds cynygiai y Parch. R. J. Campbell a Syr 01iver Lodge fod cylch undeb yr Eglwysi Rhyddion yn cael ei eangu, a bod nifer o enwadau crefyddol, y rhai ydynt yn awr y tu allan, yn cael eu gwahodd i mewn. Gallwn dybio yr awyddent am wahodd yr Eglwys Sefydledig, os nad y Pabyddion, ar y naill law, yngh}rd â'r Undodiaid ar y Haw arall. Ond pa dda a ddeilliai o hyn ? Y mae brawdgarwch Cristionogol yn werthfawr yn ei le, ond ni ddylem geisio ei estyn y tu hwnt i derfyn yr hyn a ystyriwn yn wirionedd hanfodol. Ni bydd i ni gyfathrach â'r rhai a wadant ddyfod Mab Duw yn y cnawd ; yn ol yr Apostol Ioan dyna jr Anghrist. Ac nid ydym yn gweled pa fodd y gallwn gydweithredu â phobl sydd yn ein cyfenwi yn hereticiaid, a