Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDiî* Cyf. V.] MEHEFIN, 1907. [Rhip 6. GOLYGYDDOL. YOHYDIG gyda mis yn ol eawsom ein gwysio i Lundain, i roddi tysiolaeth gerbron " Comisiwn yr Eglwys," yr hyn a alwai rhai, gyda thipyn o ddireidi, yn yrnddangos o flaen ein gwell. Nid ydym am eistedd mewn barn ar y Comisiwn rhyfedd hwn, er ei fod mewn llawer dull a modd yngwahodd beirniadaeth. Ond yr ydym am alw sylw at osgo yr aelodau at dduwinyddiaeth. Gellid meddwl wrth y cwestiynau a ofynnant eu bod yn dduwin- yddion dan garnp. Ac y mae y Cadeirydd, y Barnwr Vaughan Williams, yn ymagweddu fel pe byddai yn oracl ynglyn â hyn. Nis gwyddom i ba raddau y mae wedi yrngydnabyddu â duwin- yddiaeth, gallern dybio ei fod wedi darllen rhyw gymaint ar weithiau Calvin, ond i ni ymddangosai fel yn anwybodus o elfennau symlaf y wyddor. Drosodd a throsodd cyfeiriai at yr athrawiaethau Calfinaidd fel rhai cul a llym. Beiddiwn ddweyd eu bod y rhai llydanaf posibl, oblegyd cymerant i rnewn y tra- gywyddoldeb diddechreu a'r tragywyddoldeb diddiwedd, ac y maent yn rhoddi i Dduw ei le priodol yn iachawdwriaeth pechadur * » Pan y darfu i ni dystiolaethu fod y Methodistiaid ar y naill law yn dal yr arfaethau dwyfol, ac ar y llaw arall yn gwahodd pawb at Grist, gan sicrhau iddynt na chânt eu troi ymaith, torrodd y Cadeirydd ar ein traws yn groch, gan haeru nad oeddem yn onest yn ein gwahoddiad, ein bod yn ei wneud witìi a mental resewation. Honnai ym mhellach ein bod wrth ddal etholedig- aeth, a derbyniad pawb ddaw at Grist, yn credu dwy egwyddor nas gellir byth eu cysoni. Beiddiasom ateb fod gwirionedd fel rheol yn ymgorfforiad o ddwy elfen gyferbyniol, fel y rnae y dwfr, yr elfen sydd yn diffodd tân, yn gyfansoddedig o'r ddwy elfen fwyaf fflamllyd mewn natur. Ychwanegasom, os ydym yn anghyson, nad ein hanghysondeb ni mo hono, ond anghysondeb y Beibl, gan fod etholedigaeth a galwad gyffredinol yn caei eu dysgu yn blaen yn yr Ysgrythyr. Beth arall sydd yn yr ym- adroddion : " Fel y byddai i'r arfaeth yn ol etholedigaeth Duw sefyll," ac " Pwy bynnag a ddel ataf fì nis bwriaf ef allan ddim." Nid yw gwirioneddau ysbrydol i gael eu trin fel problemau yn Euclid, ac ni chymerant eu darostwng dan reolau rhesymeg gnawdol.