Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongluw. Cyf. V.] GORFFENAF, 1907. [Rhif 7. GOLYGYDDOL. YMIS diweddaf cawsom yr anrhydedd o gynrychioli y Cyfundeb Methodistaidd yng Nghymanfa Eglwys Bresby- teraidd Sefydledig Scotland. Prin, hefyd, y dylid ei galw yn Eglwys " Sefydledig," oblegyd llàc ac eiddil yw y rhwymyn sydd yn ei chysylltu wrth y WJadwriaeth. Nid yw yr arian a dderbynia o'r pwrs ymherodrol yn werth sôn am danynt, y mae cyfundrefn y nawddogaeth wedi diflannu er's amser, ac yn biesennol etholir gweinidog pob cynulleidfa gan yr eglwys ei hun. Ond cedwir i fyny yn fanwi y seremon'iau gorwych cysylltiedig âg agoriad y Gymanfa. Dygir y warrant i'w hagor gan gynrychiolydd y brenhin, sef yr Arglwydd Uchel Ddirprwywr. Rhoddwyd i ni y fraint o gael ein cyíiwyno i'r pendefìg hwn, sef Arglwydd Rinnaird, yn Holyrood, hen balasdy brenhinoedd Scotland. Aem yno rhwng minteoedd o fìlwyr wedi eu gosod yn rhesi ar ochrau yr heolydd. Erbyn cyrhaedd y cyntedd yn ffrynt y palasdy cawsom ef yn llawn o fiiwyr—gwýr meirch—sef y Scots Greys, oll yn arfog. Wedi aros ychydig mewn neuadd eang dilynasom y dorf, gan fyned trwy ystafelloedd addurniadol, cawsom ein hunain ym mhresenoldeb yr Uchel Ddirprwywr. Ymgrymodd ef yn foesgar i ni, ymgrymasom ninnau iddo yntau, a dyna y seremoni trosodd. # * Yn ganlynol cymerasom ein lle yn yr orymdaith tnag eglwys John Knox. Trwy ganol milwyr yr aem eto, blaenorid ni gan hand miiwrol yn chwareu tônau rhyfelgar, a chrynai y ddaear gan sŵn y cyflegrau oddiar furiau y castell gerllaw. Nis gallem lai na gofyn, Pa gydweddiad eill fod rhwng y rhwysg a'r pomp hwn â chrefydd y Gwr a ddywedodd am dano ei hun : " Addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon?" Diau fod sain cân a moliant y pererinion a aent i Langeitho yn amser Daniel Rowland, y rhai a dorrent allan i foliannu Duw pan yn bwyta eu tamaid yn yrnyl y ffynnon unig ar ael y bryn, yn llawer mwy cydnaws âg ysbryd yr efengyl. Adeilad hynafol, anferth o faint, ydyw eglwys John Knox, a chafodd ei chynllunio a'i dwyn i fod pan yr oedd Pabydd- iaeth yn grefydd Scotland. Felly, nid yw yn gymhwys at bregethu, ac anhawdd iawn ydyw clywed ynddi. Holem am yr