Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deonglioit* Cyp. V.] AWST, 1907. [RSIF 8. GOLYGYDDOL. TYSTIOLAETHAI Canon David Jones, o Benmaenmawr, gerbron Comisiwn yr Eglwys yn Llundain y dydd o'r blaen, fod Cymru yn prysur golli ei gafael ar y ffydd. Tybed fod hyn yn wir ? Nid ydym am amheu diffuantrwj^dd y Canon, ond cyfyd y cwestiwn yn natnriol ; faint o gyfieustra a gat'odd i ymgydnabyddu ag ansawdd y wlad ? Nid ydym heb wybod am glerigwyr, er nad ydym yn ei restru ef yn ea mysg, sydd yn dal ar bob cyfle i waradwyddo Cymru ar gyfrif ei Hymneillduaeth. Yn nglyn â hyn y maent yn hollol anghyson. Weithiau datgenir ar gyhoedd, a hynny gyda sain udgyrn, fod Ymneillduaeth yn gwywo yn y Dywysogaeth, a'r Eglwys yn prysur ennill tir, ac fel prawf cyfeirir at nifer yr eglwysydd adeiladwyd yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ac at rifedi y plant a aethant tan ddefod y conffirmasiwn. Bryd arall cyhoeddir gyda gwep alarus fod Cymru yn wlad hynod o anfoesol, nad yw yn gwella o gwbl, a'i bod yn waeth yn awr nag y bu, a phriodolir ei drwg i'r ffaith ei bod mor Ymneillduol. A f u erioed y fath anghysondeb ? Nis gwyddom am well enghraifft o chwythu yn oer achwythu yn dwym. Os yw yr Eglwys yn gwella ei gafael, sut na byddai y bobl yn moesoli ? Ond nid ydym am awgrymu am Canon David Jones ei fod yn ddig wrth Ymneillduaeth ; hen Ymneillduwr ydyw, gyda y Methodistiaid y cafodd ei fagu, a diau nad yw wedi anghofio ei gorlan gyntaf er ei fod wedi gweled gwellporfa mewn maes arall. Ond a ydyw Cymru yn colìi ei gafael ar y ffydd ? Oddiar adnabyddiaeth drylwyr o'r wiad, o herwydd teithio llawer ar hyd-ddi, yr ydym yn maentymio nad ydyw. 0 leiaf, nid yw y bobl gyffredin yn gwneud. Y mae corff y genedl Gymreig mor deyrngar heddyw i wirionedd yr efengyl ag y bu erioed. Grwir fod y bobl ieuainc yn darllen mwy na'u tadau, fod dosran o honynt yn ymgydnabyddu â llenyddiaeth Saesneg, ac felly yn dyfod ar draws syniadau oeddent yn ddyeithr i'w rhieni. Lleda üyn eu golygiadau, ac efallai y par iddynt fod i raddau yn ansefydlog parthed yr athrawiaethau nad ydynt yn hanfodol, ond y maent yn glynu yn ddiwyro wrth y canolbwynt. Efallai y ceir ambell un mewn rhai cynulleidfaoedd sydd yn hoffì dadleu o blaid amheuaeth, ond eithriadau anaml ydynt, a gwnant hynny nid o herwydd eu bod yn amheu mewn gwirionedd,ondermwyn