Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongluw» Cyf. V.] MEDI, 1907. [Rhip 9. GOLYGYDDOL. TWRF a dwndwr yr Eisteddfod sydd wedi bod yn cynhyrfa Cymru y dyddiau hyn. Tuag Abertawe, y dref lle ei cynhelid, y cyrchai y miloedd. Daeth nifer o Lydawiaid drosodd, er eu bod yn Babyddion gorselog, i'r wlad fwyaf Brotestanaidd dan haul y nefoedd. Cynrychiolid yr Iwerddon, Ucheldir yr Alban, Cernyw, ac Ynys Manaw yno, heblaw dieithriaid liaws o America ac Awstralia. Nid ydym am adrodd hanes yr Eisteddfod, ceir hyny hyd at ormodedd yn y newyddiaduron. Ond dywedir ei bod yn llwyddiant mawr ; fod yr Orsedd yn ysblenydd y tuhwnt i arfer, y gystadleuaeth yn dỳn, a'r cystadleuwyr yn lliosog, ac yn enwedig i'r Pwyllgor lwyddo i gael dau pen y llinyn ynghyd. Ymddengys i ni mai dyma un o beryglon y sefydliad, fod arian yn dod y pwnc mwyaf, a phob peth yn cael ei aberthu er gwneud i'r Eisteddfod dalu ei ffordd. Rhaid addef fod cynhal y fath sefydliad yn ymgymeriad difrifol, a bod llawer cymydogaeth, ar ol gweithio yn gaied am lawn flwyddyn, yn gorfod wynebu ar golled arianol bwysig. Nid rhyfedd felly y ceisir denu torf ynghyd, trwy unrhyw foddion, gan ddarpar ar gyferchwaeth nad yw yn hynod o uchel. # # Rbaid addef y siaredir llawer o ffolineb gyda golwg ar yr Eisteddfod, ac y defnyddir geiriau eithafol wrth ei chanmol. Delir hi i fyny weithiau fel prif athrofa y genedl, fel y gallu diwylliol cryfaf ym mywyd y werin, ac fel y dylanwad mwyaf dyrchafol yn hanes y wlad. Nid y w hyn ond cleber ffol a hollol ddisail. Y galluoedd fu yn foddion i ddiwyllio Cymru mewn moddarbennig ydyntgweinidogaeth yr efengyl, yr Ysgol Sabothol, a'r dosbarthiadau Beiblaidd. Nid oes yr un dylanwad i'w gymharu ag eiddo y rhai hyn. Braidd nad ydym ym meddwl fod y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelir yn y pentrefydd, ac yn yr ardaloedd amaethyddol yn gwneud mwytuag at lesoli meddwl yr ieuanc na chyfarfodydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid ydym