Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deonglunt* Cyf. VI.] CHWEFROR, 1908. [Rhip 2. Nodiadau Nisol. NID oes pen draw ar y damcaniaethau gyda golwg ar yr Iawn. A dyma lyfr newydd ar y mater gan Dr. Gore, Esgob Bir- mingham. Cydnabyddir fod Dr. Gore yn dduwinydd ; ar rai cyfrifon efallai mai efe yw y meddyliwr cryfaf a fedd yr Eglwys Sefydledig ar hyn o bryd. Nid ydym yn sicr parthed newydd-deb ei ddamcaniaeth ; ymddengys fel pe yn sefyll ar yr un tir a'r diweddar Dr. Dale, y gweinidog Annibynol enwog yn yr un ddinas ; ond y mae rhyw gymaint o newydd-deb yn y dull y gosodir y gyfundraeth ger bron. Braidd nad yw yr holl lyfr yn seiliedig ar yr adnod, " Fod Duw yng Nghrist yn cymodi y byd âg ef ei hun." Y pwynt cyntaf y pwysleisir arno yw, mai Duw sydd yn cymodi y byd. Ni cheir awgrym o gwbl fod eisieu cymodi Duw. Ỳn ol Dr. Gore, nid yw Duw yn ddigofus ; felly rhaid taflu dros y bwrdd y gosodiad Ysurythyi-ol fod " Duw yn ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol." Y gamp fawr oedd cymodi pechaduriaid. Yr ail bwynt yn y ddamcaniaeth ydy w, mai Duw yng Nghrist sydd yn cymodi. Gwnaed y cymod gan Dduw, ond nid fel Duw eithr fel dyn. Gwnaed ef gan Fab Duw, gan Dduw wedi ym- ddangos yn y cnawd. Hanfod yr Iawn, medd Dr. Gore, yw ufudd-dod. Nid yw hyn yn dod ym mhell oddiwrth ddywediad Dr. Lewis Edwards, mai hanfod yr Iawn yw haeddiant. Ffrwyth ufudd-dod ydyw haeddiant. RÌiaid i Üduw ymddangos yn y cnawd cyn y gallai ufuddhau. A rhaid ei fod yn Dduw onide nis gallai yr ufudd-dod fod yn berffaith. Y trydydd pwynt ydoedd, gan mai Duw yn y cnawd roes yr ufudd-dod nid ein heiddo ni ydyw : nid genym ni ei gwnaed ; nid ein hact ni mo hono. Go'lyga ufudd-dod Crist fethiant, dioddefaint, gwarth, ac angeu. Ond nid y rhai hyn yw yr Iawn, namyn yr ufudd-dod. Gallwn ni fethu dioddef, cael ein gwaradwyddo a marw, ond nis gallwn gyfiawni ewyllys Duw yn berffaith. " Sathrodd y gwin- wryf ei hunan, ac o'r bobl nid oedd neb gydag ef."