Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDtf* Cyp. VI.] MAWRTH, 1908. [Rhip 3. Nodiadau NisoL RHYFEDD fel y bydd eithafion cyferbyniol yn cydgyfarfod weithiau. Yr erìghraifft ddiweddaf o hyn y gwyddom am dani yw Syr 01iver Lodge. Saif Syr 01iver yn uchel ym myd gwyddoniaeth ; ar rai adranau o hono ystyrir ef yr awdur- dod uchaf oll, a chyda hyn cura ei galon mewn cydymdeimlad dwys â Christionogaeth ac â Christ. Ar yr.un pryd y mae ym mhell o fod yn uniongred, rhaid iddo gael bwrw y gwyrthiol allan o'r efengyl, nis gall dderbyn yr enedigaeth o forwyn, ac nid yw yn credu yn adgyfodiad corph yr Arglwydd Iesü. Er gwell neu er gwaeth, y mae Syr 01iver wedi pinno cyffes ei ffydd wrth gysondeb diwyro deddfau natur. Ond yr hyn sydd yn rhyfedd yw fod y gwyddonydd enwog wedi llithro i fod yn ddisgybl i Ysbrydegaeth. Mewn araeth a draddodwyd ganddo y dydd o'r blaen o fiaen y Psychical Suciety, dywedai fod yr ysbrydion ym- adawedig yn tyllu i'n cyfeiriad ni, a'n bod ninnau yn tyllu i'w cyfeiriad hwy, ac erbyn hyn fod y mur rhyngom a'n gilydd rnewn rhai manau wedi myned mor denau fel y gallwn ar rai munydau tawel ddal cymundeb deallgar y naill â'r llall.' » * Byddai yn dda genym wybod pa brawf sydd fod yr ysbryd- ion ymadawedig yn tyllu i'n cyfeiriad ni. Pwy erioed glywodd sŵn eu morthwylion F Beth yw natur y mur a dyllir ganddynt, ac â pha offerynau y gweithiant ? Yn sicr, pe bae rhai o bres- wyiwyr y byd ysbrydol yn dod i ddal cymundeb â thrigolion y ddaear, byddai ganddynt rywbeth gwerth ei ddyweyd a gwerth ei gofio, ■ Ond am y pethau a groniclìr gan Ysbrydegwyr nid ydynt ond pethau masw a dienaid, Yr ydyin yn cofio am ddos- barth o Ysbrydegwyr a deimlent ddyddordeb \ng íl Nghytateb- iaeth Crefydd Naturiol a Datguddiedig" Butler—llyfr caied, yn gofyn meddylgarweh dwys tuag at ei ddeall. Cafodd y bobl hyn