Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDit» Cyf. VI.] EBRILL, 1908. [Rhip 4. Nodiadau MisoL YMAE yn ffasiwn y dyddiau hyn i geisio tadogi lluaws o athrawiaethau yr efengyl ar yr Apostol Paul. Cyferbynir dysgeidiaeth Crist âg eiddo Paul ; y gyntaf yn syml, yn ysbrydol, ac yn dal perthynas arbenig1 â bywyd ; y llall yn gymhleth, yn rhesymegol, yn gyfundrefnol, ae yn dal perthynas yn fwyaf neillduol â chredo. Haerir nad yw yr athrawiaethau mawrion a gredir genym wedi dyfod i ni oddiwrth yr Iesu yn uniongyrchol, ond trwy gyfrwng, sef Paul, a bod llawer o'r cyf- rwng wedi glynu wrthynt, ac wedi rhoddi ei fí'urf arnynt. A rhai mor bell a thaeru nad Cristionogaeth yw yr enw iawn ar ein crefydd, mai Paulyddiaeth y dylid ei galw. Yn awr, nid yw hyn namyn edrych ar bethau gyda golwg hynod o arwynebol. Yr ydym yn cyfaddef y rhoddir lle mawr i Paul yn y Testament Newydd, a bod mwy na'i hanner wedi cael ei ysgrifenu ganddo. A siarad mewn dnll dynol, efe gadwodd Gristionogaeth rhag myned yn nwylaw Petr ac Iago yn sect Iuddewig gul. Nid oedd yr apostolion wedi rhoddi eu llawn ystyr i'r geiriau, " Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur " ; a rhaid ddarfod i Petr anghofio gwers tý Cornelins. Yni Paul, a'i ben- derfyniad di-ildio, a roddes i Gristionogaeth yn yr oes apostolaidd ei llydanrwydd. Efe, hefyd, oedd duwinydd cyntaf yr eglwys. * * Ond camgymeriad difrifol yw tybio ddarfod i Paul newid dim ar hanfod yr efengyl. Dywed ef ei hun gyda phwyslais ddarfod iddo yn ei weinidogaeth gyflwyno y gwiiionedd fel yr oedd wedi ei dderbyn. Meddai wrth y Corinthiaid, " Mi a dr'a- ddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefycì a dderbyniais, farw o' Grist dros ein pechodau ni, yn ol yr Ysgrythyran." Derbyniasai Paul fwy na'r ffaith syml o farw Crist, sef amcan y marw— "dros ein pechodau ni." Nid efe ei hun roddodd ei esboniad ei hun ar natur ac amcan y marw; arweinwyd ef i mewn ar