Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDtt* Cyf. VI.] MAI, 1908. [Rhif 5. Nodiadau Misol. PWNC y dydd yn awr yn y cylch moesol a ehrefyddol yw yr ymdrech a wneir i gwtogi terfynan y fasnach mewn diodydd meddwol, ac i leihau y difrod a'r anrhaith a wneir gánddi. Nid ydyrn heb ofni fod yr Eglwys Sefydledig yn myned i lefaru ar y mater hwn gyda dau dafod, a'r'rhaî hyny yn gwrthwynebu eu giìydd. Fel y mae'r gwaethaf, ceir esgobion a chlerigwyr yn bendithio y drafnidiaeth mewn diod feddwol. Yn dduwiolfrydig iawn tafiant eu haden dros yr hyn sydd yn ffynhonell pechodau. Efallai fod ychwaneg nag un rheswai am hyn. Bodola cyfathrach ddiamheuol rhwng y fasnach a'r Eglwys. Y ddau hyn sydd fel pe wedi ymdynghedu i gefnogi ac amddiffyn y naill y llall. Ond cael pob chwareu teg i wney.d meddwon, ac i lenwi gwall- gofdai a thlottai â chreaduriaid truenus, addawa y tafarnwyr a'r darllawyr eu nawdd i'r Eglwys, gan rwystro pob ymosodiad ar ei heiddo. Heblaw hyn, yr ydym yn clywed ar awdurdod dda fod lliaws o glerigwyr wedi buddsoddi eu heiddo mewn darllawdai, a'u bod yn derbyn elw yn awr yn fiynyddol oddiwrth anghym- edroldeb y wlad. O'r cyfryw, yn ol un newyddiadur, y mae cant a phedwar ugain yng Nghymru. Dyma ymgais deg i geisio gwasanaethu Duw a mamon. Ymddengys yn debyg i yfed o gwpan yr Arglwydd ac o phiol cythreuliaid. Da genym weled, modd bynag, fod yr adran liosocaf, ac yn .sicr yr adran fwyaf dylanwadol o lawer, o'r clerigwyr a'r esgob- ion yn ffafrio y Mesur Trwyddedu, ac yn taflu eu holl ddylanwad o'i blaid. Ar ben y rhes cawn Archesgob Canterbury. Y mae ef wedi gwrthod gwrando ar swyngyfaredd a hudoliaeth.au y fasnach ar y naill law, ac ar ei bygythion ar y Uaw arall. Dywedwyd wrtho yn glir gan y rhai sydd wedi myned yn frâs ar arferion yfol y bobl, os y pleidiai y Mesur Trwyddedu, na chaffai unrhyw