Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deonglunt. Cyf. VI.] GORPHENAF, 1908. [Rhif 7. Nodiadau Nisol YM marwolaeth Dr. Thomas Rees, collodd y cyfundeb Method- istaidd un o'i weinidogion blaenaf. Wrth feddwl am dano, nis gallwn lai na chofio geiriau »yr Apostol Paul : " Mi a draddodais i chwi er y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ol yr Ysgrythyrau." Yr oedd Dr. Rees wedi derbyn cenadwri, ac y mae cynulleidfaoedd Cymru yn dystion. Y genadwri a dderbyniodd ydoedd,farw o Grist dros ein pechodau ni. Mewn geiriau eraill, y gwirionedd am farwolaeth iawnol, adgyfodiad buddugoliaethus, ac esgyniad gorfoleddus yr Arglwydd Iesu. Derbyniodd hi mewn cymundeb cyson â Duw, ac mewn dwys fyfyrdod ar Air Duw. Byddai yr hen broffwydi yn derbyn cenadwri trwy weledigaethau a breuddwyetion. Fe fyddai y proffwyd yn myned i'w wely, yn syrthio i drwmgwsg, ac yn breuddwydio. Yr oedd arbenigrwydd yn cael ei osod ar freuddwyd neillduol rhywbeth yn ei farcio allan. nes peri i'r proffwyd ddeall ei fod yn cynwys cenadwri oddiwrth Dduw. A tranoeth yr oedd y proffwyd yn myned allan, ac yn bloeddio yn groch, " Fel hyn y dywed yr Arglwydd." # * Ond y mae oes y breuddwydion hyn wedi darfod. Ni bydd ne*b yn awr yn cael cenadwri yn ei gwsg. Y ffordd i ddod o hyd i feddwl Duw yw trwy gymdeithasu âg ef, a thrwy lafurio ym mwngloddiau yr Ysgrythyr. Felly y cafodd Dr. Rees genadwri. Fe ymboenodd yn y Gair a'r athrawiaeth. Wedi cael cenadwri, fu neb mwy ffyddlon i'w chyhoeddi. Am ran fawr o'i oes, yr oedd y weinidogaeth deithiol mewn bri ymysg y Methodistiaid. Yn unol â'r drefn hon, teithiodd yntau lawer gw7aith trwy holl Gymru ; 'does na phentref na chwmwd o Gaergybi i Gaerdydd lle na chlywyd ei lais yn cyhoeddi efengyl gras. • * Ac yr oedd ganddo goflaid iawn o efengyl yn wastad. Efallai na byddai yr hwyl yn dod bob amser; fe fyddai yntau fel ei frodyr yn cael ambell i odfa drymaidd ; ond beth bynag am yr hwyl a'r dylanwad, fe fyddai ef a'r efengyl dragywyddol ganddo.