Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltPit» Cyf. VI.] AWST, 1908. [Rhif 8. Nodiadau Misol. NID hawdd deall gyda golwg ar nifer mawr o'r esbonwyr diweddaraf, yn enwedig yr uchfeirniaid mwyaf eithafol, beth a amcanant wneyd o brophwydoliaethau yr Hen Destament. Gallem feddwl eu bod yn benderfynol, hyd eithaf eu gallu, o ymlid yr Arglwydd Iesu allan o honynt yn llwyr. Os y darganfyddant, neu y tybiant eu bod wedi darganfod, rhyw debygrwydd i'r brophwydoliaeth mewn rhyw amgylchiad perth- ynol i Israel, neu yn hanesiaeth y cenhedloedd o gwmpas, disgyn- ant ar hwnw fel barcud, a chyhoeddant mai dyna ystyr y r.bagfyn- egiad. Maent mor llawn o wrthnaws at yr ysbrydol fel na fynant osod eu troed i lawr arno, os y meddyliant y gallant sangu ar y naturiol. Cawn enghraifft o hyn yn yr esboniad roddant ar y geiriau yn Esaiah : " Bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni," &c. Haerant nad oes yna gyfeiriad at yr Arglwydd Iesu, ond mai mab Ahaz sydd yn cael ei olygu. Yn sicr, dylai eu synwyr moesol ddysgu iddynt well pethau. Pob parch i Hezeciah, yr oedd yn ddyn da a duwiol, yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o frenhinoedd Judah. Ond byddai yn gabledd priodoli iddo y teitlau gogon- eddus a gysylltir â'r Mab gan y Prophwyd. Perlau mewn coron ydynt, nad oes neb yn deilwng o'u gwisgo ond y pen fu dan y goron ddrain. Ni byddai eu gwisgo am Hezeciah ond fel gosod pleth o emau am wddf abwydyn. Eithr, uieddai yr uchfeirniaid, nid ysgrifenu rhyddiaith wnelai Esaiah—bardd ydoedd. Eithaf gwir, bardd godidog ydoedd, a chaniateir cryn lawer o drwydded i farddoniaeth, ond y mae iddi ei therfynau fel nad êl drostynt, ac y mae gwisgo dyn ffaeledig yn nillad Duw yn ormod o ryddid hyd yn nod i farddoniaeth. # # Cawn enghraifft arall lawn mor darawiadol yn yr esboniad a rydd Dr. Thirtle, fel ei cofnodir gan y Proffeswr Margoliouth yn yr Exposüor, ar "Was yr Arglwydd" yn Esaiah liii. Hezeciah ydyw hwn eto gan Dr. Thirtle. Pa debygrwydd a wêl ynddo i'r