Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Deongluw» Cyf. VI.] MEDI, 1908. [Rhif 9. Nodiadau Misol. YM marwolaeth y Parch. William James, Aberdar, collodd pulpud Cymru un o'i gewri, a'r Cyfundeb Methodistaidd un o'i arweinwyr doetbaf. Efallai nas gellir ei restru ymysg y pregethwyr mwyaf poblogaidd oll ; fel y sylwai y Parch. John Williams, Brynsiencyn, yn ei gladdedigaeth, yr oedd yn rhy goeth i hynny. Ni elwid am dano i gyfarfodydd pregethu er mwyn boddloni enwadau ereill. . Ni oddefai ei chwaeth bur iddo oglais cynulleidfa âg ymadroddion ffraeth. Ond yr ydym yn credu iddo roddi i'w wrandawyr syniad newydd am urddas gweinidogaeth yr efengyl. Mor wir a'i fod yn feddyliwr eoeth, yr oedd yn feddyliwr beiddgar. Eryr ydoedd, cryf ei adenydd, yn medru ehedeg i fyny i'r uchelderau, ac yn antario edrych yn llygad yr haul. Mor wir a hynny, byddai yn cloddio ac yn myned yn ddwfn, gan ddwyn i fyny o'r dyfnderoedd obry berlau na welodd y ddaear hon mo'u rhyw. Gan ei fod yn meddwl, byddai bob amser yn ffres. Llawer gwaith y gwelsom gynull- eidfa yn gwelwi ac yn dal ei hanadl o dan ddylanwad y dwyster fyddai wedi meddiannu ei enaid. # • Nis gellir crynhoi i ychydig le yr holl wasanaeth a gyfiawnodd Mr. James i'w Gyfundeb Saif y Llyfr Hymnau sydd ar ein pulpudau yn golofn arosol o'i chwaeth goeth, o'i allu i adnabod y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt, ac hefyd o'i amynedd diderfyn i gymeryd trafferth. Gwir fod Pwyllgor wrth ei gefn, a bod ar y Pwyllgor ddynion gwir ragorol, ond ar Mr. James y disgýnnodd pwysau y baich. Gweithiai wrtho ddydd a nos, ac nid ydym heb ofni i'w lafur fyrhau ei oes. Bu iddo ran bwysig hefyd yn nygiad allan y Llyfr Tonau. Os nad oedd yn deall cerddoriaeth fel gwyddor, meddai ryw reddf i adnabod tôn, ac yr oedd yn ei ymyl ac at ei wasanaeth un neu ddau o gerddorion na feddai Cymru eu rhagorach. Efallai, wedi y cwbl, mai y ddarlith ar " Natur Iyn ei pherthynas a'r Ysbrydol " yw ei brif waith.