Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DeongltDP. Cyf. VII.] MEHEFIN, 1909. [Rhif 6. Nodiadau Misol. YR ydym yn wastad yn croesawu ysgrifau y Parch. W. M. Lewis, Tyllwyd ; y maent bob amser yn ddyddorol a ffres, ac weithiau yn allnog. Medd gryn lawer o annibyniaeth meddwl, nid yw yn canlyn yn wasaidd ar ol esbonwyr, pa mor alJuog bynag y gallant fod ; yn hytrach, troedia lwybr newydd o'i eiddo ei hun. Nis geill dim fod yn fwy iachus na'r ysbryd hwn. Yn y rhifyn diweddaf o'r Drysorfa, ceir ysgrif ganddo ar " Paul, y penaf bechadur." Beirniadaeth ydyw ar 1 Timotheus i. 15 : " o ba rai, penaf ydwyf fì." Try y ddadl ar ystyr y gair Groeg protos, yr hwn a olyga penaf neu cyntaf. Teifl Mr. Lewis y syniad cyffredin, sef fod yr Apostol yn ei brofiad yn cael ei hun y penaf o bechaduriaid, dros y bwrdd yn bur ddiseremoni. Yn awr, beth y w ei resymau ? Un ydyw, nad y w cymharu ein hunain âg ereill yn arfer iachus. Yr ydym yn methu gweled cysondeb y sylw hwn â sylw arall geir yn nes ym mlaen yn yr un ysgrif, sef y ganmoliaeth a roddir i'r Groegiaid o herwydd y byddent yn ymffrostio yn eu dewrder, ac yn eu doethineb. " Gwell," ebai Mr. Lewis, " i'r ymwybyddiaeth o ragoriaeth gael ymarllwysiad mewn ymffrost nac mewn gormes, traisedd, a sathr ;" a chyfeiria at ein tuedd ni i gelu yr hyn ydym, pan y byddwn yn ymwybodol o ragoriaeth, fel ffug ledneisrwydd. Yn sicr, nid yw yr awdwr yn meddwl y gallwn gymharu ein hunain âg ereill pan y tybiwn fod genym achos ymffrost, ond nad oes genym hawl i wneyd hyny pan fyddo genym reaymau dros gywilyddio. Myn Mr. Lewis nad oes eiriau i'w cael yn y Testament Newydd sydd yn perthyn i'r un dosbarth a " y penaf ydwyf fi." Yr ydym yn teimlo eryn rým yn ei feirniadaeth ar 1 Cor. xv. 9— " Canys myfi y w y lleiaf o'r Apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol, am i mi erlid eglwys Dduw." Hollol gywir yw y nodiad : " Y mae i un ganfod ei werth, ynglyn â theyrnas Dduw, yn Uai nag y dylasai, neu a allasai fod, yn gwbl wahanrywiol i fod dyn yn ei gyhoeddi ei hun yn benaf pechadur." Ond nid ydym