Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^$>t^g0 y SWYDDOCOL UWCH DEML URDD ANNIBYNOL T TEMLWYR DA YN NGHYMRU. BHIF. 9 O'R GYF, NEWYDD. RHIF. 31 O'R HEN GYF. MEDI 1, 1875. [Pris Ceiniog. MODDION NEILLDÜOL I GYRAEDD AMCANION NEILLDÜOL. GAN Y PARCH. R. EILLIN, RECTOR FFESTINIOG, A DEON GWLADOL ARDÜDWY. Gofynir yn fynych, Beth ydyw Temlyddiaeth Dda? a rhoddir gwahanol atebion i'r gofyniad. Myn rhai mai sect grefyddol ydyw, eraill mai mudiad gwleidyddol, ac eraill mai cymdeithas ddirgelaidd a pheryglus. Oad ein hateb ni ydyw, mai offeryn neillduol o eiddo yr efengyl i sobri y meddwon, ac i atal cymedrolwyr rhag myned yn feddwon, yw. Nid ydyw ddim yn grefydd ei hun, ond y mae yn llawforwyn dda i grefydd. Nid oes a fyno â gwleidyddiaeth ond mor bell ag y mae gwleidyddiaeth yn ymwneyd â'r diodydd meddwol. Cymdeithas âg un am- can mawr mewn golwg ydyw, a'r amcan hwnw yw dryllio cadwynau haiarnaidd caethion Bachus, ac atal eraill rhag syrthio dan ei iau ormesol. Nid oes a fyno â bychan nac â mawr, ond â'r diodydd meddwol yn unig, yn eu cysyllt- iadau â chrefydd, moesoldeb, a gwleidyddiaeth. Ac y mae moddion neillduol i gyraedd amcanion neillduol yn cael eu defnyddio gan yr efengyl ar bob llaw. Nis gall ddylanwadu ar y byd hebddynt. Gofala yn ar- benig am y tlodion, a dywed wrth ei holl ddeiliaid, a Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd." A pha foddion a ddefnyddia Cristionogion y wlad hon i gyraedd y diben yna ? Cyf- raith y tlodion, clybiau y cleifion, elusendai, ysbytai, a'r cyffelyb. Mae genym ein cymdeithasau heddwch, er sicrhau " tangnefedd ar y ddaear ;" cymdeítbasau addysg, er dwyn ein plant i fyny yn aelodau defnyddiol o'r wlad- wriaeth; a chymdeithasau cenhadol, er danfon cenhadon hedd i holl dywyll leoedd y ddaear. A ydy w, ynte, yn onest, teg, neu gyfiawn, i wrthgyferbynu yr efengyl â Themlyddiaeth Dda? A fuasai yn rhesymol i ddweyd wrth Ẅilberforce a'i gydymdrechwyr mai yr efengyl oedd i ryddhau y caethion, a bod cymdeithas er eu rhyddhad yn groes i'w hegwyddorion ? A ydyw yn wrth-efengylaidd i ddarparu cartrefleoedd (homes and refuges) i blant crwydr- aidd yn ein trefydd mawrion, a diweirdai i ferched drwg ? Os eaniateir i'r efengyl ddefnyddio y moddion neillduol uchod a'r cyffelyb er lleihau trueni dynoliaeth, gofynwn yn ddifrifol ar ba dir y gellir gwrthwynebu moddion neillduol i atal meddwdod, yr hwn sydd yn difrodi ein gwlad a'n heglwysi ? Fod angen am ioddion neillduol i'r diben hwn yn y wlad hon a brofìr tuhwnt i bob amheuaeth gan y ffeithiau canlynol. Er fod yr efengyl wedi danfon ei phelydraw cynhesol a llesol arni dros ysbaìd agos i ddeunaw can' mlynedd, y mae tua thriugain mil yn syrthio i fedd y meddwyn yn flynyddol ynddi—mwy nag sydd yn cael eu lladd gan y cleddyf, yr haint, a'r newyn, gyda'u gilydd. Y mae tua haner can' mil o wallgofiaid wedi eu cau i fyny mewn gwallgofdai, a dywed y dirprwywyr ar wallgofrwydd fod tri o bob pump o honynt wedi eu dwyn yno gan y diodydd meddwol. Y mae genym dros filiwn o dlodion yn dibynu ar y plwyf am ea cynhaliaeth, a dywed Dirprwy- wyr Cyfraith y Tlodion fod tri o bob pedwar o honynt wedi eu dwyn i'r sefyllfa isel hono, yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, gan yr un achos. Y mae genym haner miliwn o ddrwgweithredwyr, a ehytuna y barnwyr yn gy- ffredinol â geiriau difrifol y diweddar Farnwr Patteson :— "Oni bai y ddiod, ni byddaigenym ni ddim i'w wneuthur." Meddylier yn mhellach am y myrddiynau sydd yn cael eu cadw o dŷ Dduw o ddechreu y flwyddyn hyd ei diwedd gan y drwg hwn, y Uiaws o grefyddwyr, ac hyd yn nod gweinidogion yr efengyl, sydd yn syrthio yn aberth i'r bwystfil, y miloedd o gartrefloedd clŷd sydd yn cael eu difrodi, a'r myrddiynau o wragedd a phlant sydd yn cael eu graddol newynu a'u camdrin mor greulawn 1 Onid oes achos'ynte i bob Dafydd wisgo ei arfau yn erbyn y Goliath hwn ? Onid oes galwad uchel ar bob Cristion i gynllunio y moddion goreu ag a all er mwyn atal y cenllif dinystriol sydd yn bygwth myned dan wraidd ein llwyddiant gwladol, a gwneuthur yr efengyl yn ysgymunbeth i anffyddwyr, ac hyd yn nod i baganiaid y ddaear, tra y mae Cristionogion yn feddwach na Mahometaniaid, Hindwaid, a Buddistiaid. Ond y cwestiwn yw, ai Temlyddiaeth Dda ydyw y moddion goreu er cyraedd yr amcan ? Y mae nifer mawr o foddion eraill wedi cael eu defnyddio yn ystod y deu- gain mlynedd diweddaf, a diameu fod llawer o honynt wedi gwneuthur lles dirfawr, a thragwyddoldeb yn unig a ddengys faint y mae yr efengyl wedi bod yn ddyledus iddynt. Y mae hefyd amryw gymdeithasau da yn awr ar y maes, a iaith calon pob Temlwr goleuedig ydyw, " Duw yn rhwydd iddynt." Y mae ganddynt eu cyfaddasrwydd i gyraedd eu hamcanion yn eu gwahanol agweddau. Er hyn oll, tybiwn fod gan Demlyddiaeth ei rhagoriaethau. Pan feddyliom am wahanol swyddogion a phwyllgorau pob Teml, a gofal y Dosbarth Demlau a'r Uwch Demlau am bob un, nid oes amheuaeth yn ein meddwl nad yw y peiriant hwn yn tra rhagori ar bob un arall sydd hyd yma