Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SWYDDOCOL! UWCH DEIL URDD ÄNNIBYNOL Y TEILWYR Di YN NGHYIRU. RHIF. 10 O'R GYF. NEWYDD. RHIF. 31 O'R HEN GYF. HYDEEF 1, 1875. [PfilS CEINIOGh MAN BBTHAU PWYSIG TEMLYDDIAETH. Trwy eich hynawsedd arferol, Mr. GoL, bwriadaf wneyd ychydig sylwadau byrion yn y Temlydd, gyda'r amcan, os galìaf o roddi ychydig addysg i'm cyd-demlwyr yn y Dywysogaeth yn y dull o weithio Temlyddiaeth Dda yn ei ffordd ei hun. Er fod yr Urdd belJach wedi cyraedd oedran lled dda yn ein mysg, a chyfleusderau mynych wedi eu cael i ymgydnabyddu â threfniadau y sefydliad, teimlir, gan rai o aelodau goreu y gymdeitbas, na thelir sylw dyladwy i ryw fân bethau perthynol idri^ a'r mân bethau byny wedi yr ymgasglont at eu gilydd yn ffurfio anhawsder mawr ar ffordd gweithiad priodol y trefniant. Dymunwn ddweyd gair byr ar DDYLEDSWYDDAU Y SWYDD0GION. Ni fwriadaf ddweyd nac awgrymu dim a fo â thuedd yn y mesur lleiaf i dramgwyddo neu darfu fy mrodyr a'm chwior- ydd ffyddlawn a gweithgar y gosodwyd anrhydedd swydd- ogol arnynt, a'r rhai a wnant ymdrechion canmoladwy i gadw anrhydedd y swydd yn ddilychwin; ond os Uwyddaf i rodcìi rhyw gymorth i'r cyfryw i ddwyn eu beichiau yn rhwyddach, a rbynu y gwys yn unionach, bydd fy amcan Uwchaf wedi ei gyraedd. Yinhen ychydig amser ar ol ymddangosiad cyntaf Temlyddiaeth yn y wlad hon, cy- hoeddodd y Brawd Malins, U.D.B.D. Lloegr, Iyfr bychan cynwysfawr er cynorthwyo swyddogion yr Is-demlau i gyfla'wni eu dyledswyddau yn briodol. Gan y creawyf y byddai hyny yn fantais i ni fel Cymry, rhoddaf ychydig ddyfyniadau o'r llyfr uchod, gan ddechreu gyda " Dirprwywr yr Uwch Deilwng Brif Demlydd.—Penodir Dirprwywr i'r Uwch Deilwng Brif Demlydd ar bob teml. Er na ellir ystyried y Dirprwywr yn swyddog y deml, nac yn gyfrifol i'r deml am ei weithredoedd swyddogol, eto ûiae yn rhaid iddo fod yn aelod o'r deml, ac fel y cyfryw yn gyfrifol iddi am ei ymddygiadau. Trwy ei gomisiwn rhoddir iddo awdurdod i weithredu dros yr U.D.B.D., ac os digwydd i'r deml ddiystyru, neu weithredu yn annibyn- ol ar y Cyfansoddiad, dylai ar unwaith gywiro y bai. Nid oes ganddo awdurdod i ddifreinio ei deml heb ©rchymyn oddiwrth ei uwchafiaid. 1. Mae yn ddyledswydd ar bob Teml Ddirprwywr i weled fod ei deml yn gweithio yn unol â chyfreithiau, rheolau, a defion yr Uwch Deml. 2. Derbyn y dreth chwarterol ddyledus i'r Uwch Deml cyn gorseddu j swyddogion neu roddi y trwyddair, 3. Gorseddu y swyddogion etholedig wedi derbyn y gyfriflen a'r dreth chwarterol, ond nid cyn hyny. 4. Rhoddi caniatad i dderbyn ymgeiswyr yrunnoswaith ag y cynygir hwynt, os ceir trwy bleidlais fod dwy ran o dair o'r aelodau a fo yn bresenol yn dymuno hyny ; hefyd rhoddi caniatad i gyflwyno y graddau, ac i wisgo Urdd- wisgoedd yn gyhoeddus. 5. Ehaid iddo ar derfyn pob chwarter anfon adroddiad o'i weithrediadau swyddogol, a sefyllfa y demli'r U.D.B.D. 6. Mae yn ddyledswydd arno benderfynu pob cwestiwn 0 ddeddf a threfn a gyflwynir iddo. 7. Nis gall Teml na Dosbarth Ddirprwywr wasanaethu swydd y Teilwng Brif Demlydd, oddieithr yn achlysurcl, yn absenoldeb y swyddog hwnw." Oddiwrth yr uchod gwelir yn amlwg, ac y mae natur yr achos yn dysgu yr un peth, nad all un Is-deml ystyried y Dirprwywr yn swyddog iddi ei hun. Nid priodol ei osod ar restr y swyddogion o gwbl, ac mewn canlyniad nisgellir ei alw i gyfrif a'i gospi fel y swyddogion eraill am ei absen- oldeb; ond, fel aelod, dylid cadw cyfrif manwl o'i bresen- oldeb yn y deml, ac os ceir ei fod yn ddiffygiol yn hyny, rhodder ei achos i'r pwyllgor ar yr absenolion. Nis gall y deml ychwaith ei ddal yn gyfrifol am ei weiŵredoedd swyddogol; os ceir ef yn ddiffygiol yn nghyflawniad ei ddyledswyddau, dylid ar unwaith hysbysu yr U.D.B.D. o'r ffaith, yr hwn yw yr awdurdod priodol i drin yr achos yn ol ei deilyngdod; naill ai rhoddi cerydd iddo am ei ddifrawder, neu ynte ddirymu ei gomisiwn yn hollol a rhoddi awdurdodiad i aelod arall. Os ceir y Dirprwywr yn euog o droseddu un o adeddfau yr Urdd, neu dori ei ymrwymiad, dyledswydd y deml yw trin yr achos fel j gwneir gydag aelod arall, a'i gospi yri ol maint y trosedd, ond dylid gofalu hysbysu yr U.D.B.D. o'r peth yn ddioed. Mae yn ddyledswydd arbenig ar y Dirprwywr i ofaluna byddo y deml yn gweithio yn groes i'r Cyfansoddiad. Ni olygir wrth hyny fod y Dirprwywr i ymyryd yn swyddog- 01 â phob amgylchiad bach a dibwys o eiddo y deml ; mae hyny yn waith swyddog arall fel y ceir gweled eto cyn bo hir. T'iedda mynych ymyriadau o'r fath i ddiflasu yr aelodau, a thaflu dwfr oer ar eu holl weithrediadau, a mwy na'r cwbl, mae perygl ynddyní i wneyd awdurdod y Dir- prwywr yn fwy dirym a disylw yn ngolwg y deml os digwydd i amgylchiad pwysig gyfodi yn y dyfodol. Hefyd yn ol rhif 6ed o'r uchod gwelir nad yw i wneyd hyny oni apelir ato ; ond, os gwel y deml yn rhoddi y Cyfansoddiad dan draed, ac yn ymddwyn at gyfreiíihiau awdurdodedig