Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^^ISB * SWYDDOGOL UWCH DEIL URDD ANNIBYNOL Y TEILWYR DA YN NGHYIRU. RHIF. RHIF. 18 O'E GYF. NEWYDD. 39 O'R HEN GYF. MEHEFIN 1. 1876. [Pbis Ceinioö ANERCHIAD A DRADDODWYD YN NHEML UWCH LLIFON, RHIF 72. GAN WILLIAM JOHN DAVIES (GLAN LLYFNWY). Nid oes dim yn amlycach, na dim y ceir cadarnach a mýnychach profion o'i wirionedd, na bod y diodydd meddwol yn amddifadu dyn tra dan eu dylanwad o wasan- aeth ei reswm. Rheswm ddylai fod arweinydd dyn yn ei holl weithrediadau. Pan y mae gweithredoedd dyn heb fod yn ffrwyth ystyriaeth, ac yn gydgordiol â rheswm, y maent yn annheilwng o hono, ac y mae yntau wrth eu cyflawni yn syrthio islaw iddo ei hun. Os yw dyn am fod yn deilwng o hono ei hun, dylai pob gweithred o'i eiddo fod yn un rhesymol. Dylai fod yn gyfryw ag a ddeil ymchwiliad manylaf rheswm ; yn un a ddaw allan o'r prawf yn anrhydeddus, gan adlewyrchu urddas ar y gweithredydd. Dyledswydd dyn, gan hyny, yw gwneyd yr oll yn ei allu er cadw ei reswm ar yr orsedd y bwriad- wyd ef iddi, ac y gosodwyd ef arni, gan y Creawdwr holl ddoeth, ac ymochel rhag unrhyw beth sydd a'r duedd leiaf ynddo i ymyryd â hawliau neu â rhyddweithrediad ei reswm. Mae yn amlwg fod meddwdod yn diorseddu rheswm, o ganlyniad dylai pob perchen rheswm ymgadw oddiwrth yr hyn sydd yn meddwi. Subrwydd, o'r ochr arall, ydyw angel gwarcheidiol rheswm. Sobrwydd, medd un, sydd dduwioldeb corfforol, a cheidwad y rheolaeth ddwyfol yn y corff. Y mae bod yn sobr yn un o brif, os nad y benaf oll, o ddyledswyddau dyn tuag ato ei hun yn ei berthynas â'r byd a'r bywyd hwn. Ac y mae sobrwydd yn un o ffrwythau angenrheidiol Cristionogaeth, fel, lle bynag y ceir gwir Gristion,®ei fod o angenrheidrwydd yn ddyn sobr. Gan fod meddwdod yn amddifadu dyn o'i reswm, nid yw ei weithredoedd tra yn y cyflwr hwnw yn rhai rhesymol. Cyflawna dan ddylanwad y ddiod feddwo weithredoedd ydynt, nid yn unig islaw iddo ef ei hun, ond islaw yr anifail. Gosododd y Creawdwr urddas ar ddyn trwy ei gynysgaeddu â rheswm, ac y mae dyn yn urddasoli ei hun wrth weithredu yn deilwng o fôd rhesymol. Onid yw yn resyn fod bôd mor urddasol ac ardderchog yn gwirfoddol ymddiosg o'i ardderchogrwydd, ac yn ym- ddarostwng mor isel nes dyfod yn is-wasanaethgar i'r diodydd meddwol, yn gyfrwng iddynt hwy weithrodu drwyddo ? A'r fath weithredoedd ofnadwy a gyflawnir ganddynt drwy offerynoliaeth ein cyd-ddynion. Gellir gofyn, Pwy sydd yn meddwi ? ^Y mae pob un sydd yn yfed unrhyw swm o'r diodydd meddwol yn ddarostyngedig i'w dylanwadau. Y mae yr hwn sydd yn yfed haner peintyn meddwi yr un mor wirioneddol, er nad i'r un graddau, a'r hwn sydd yn yfed haner galwyn. Yr ydym yn cael fod hyd yn nod un haner peint yn meddwi Jlawer dyn gwan ac anghynefin â'r ddiod, tra y mae yn rhaid wrth alwyn i ddwyn dyn cryf a chyneíìn â hi i'r sefyllfa hono. Nid wrth honciadau un pan yn cerdded y mae barnu pa mor feddw yw, ond yn ol y swm a yfwyd ganddo. Os cyfrifwn feddwon ein gwlad yn ol y rheol hon, sef fod pob un sydd yn yfed haner peint yn meddw, ac felly yn feddwon, y mae eu nifer yn aruthrol. A phan y meddyl- iom fod pob un o honynt yn feddw i ryw raddau yn ddydd- iol, ac fod eu rheswni yn colli ei lywodraeth i'r graddau y mae meddwdod yn dylanwadu arnynt, pan yr ystyriwn yn ddyladwy fod cynifer o'n cydwladwyr yn gweithredu bob dydd yn yr amddifadrwydd o'u rheswm, y mae sefyllfa ein gwlad mewn gwirionedd yn dyfod yn ddychrynllyd ddifrifol. Ac O ! na byddai yn bosibl dwyn y rhai hyny a alwant eu hunain yn gymedrolwyr i edrych yn wyneb gwirionedd fel hwn, i'w gredu, a gweithredu yn unol â hyny, sef llwyrymwrthod am byth. Pe gellid dwyn hyn oddiamgylch, byddai gwedd newydd ar ein gwlad yn fuan iawn. D.B.D,,—Goddefwch i mi alw sylw y Deml at un peth arall. Bum yn ddiweddar yn ymddiddan âg un oedd ychydig amser yn ol yn frawd zelog, ac yn aelod ffyddlon o'n Teml, ond sydd erbyn hyn wedi gwithgilio. Gofynais iddo beth oedd ei reswm dros beidio dyfod i'r Deml. Dywedai yntau na fu mewn cymaint ag un braidd o'r eyf- arfodydd wytbnosol na fyddai rhai o'r brodyr yn ei glwyfo drwy wneyd cyfeiriadau personol ato, a chan fod hyny yn ei anesmwytho, ac yn poeni llawer arno, iddo ddyfod i'r penderfyniad mai ei ddiogelwch a'i ddoethineb oedd peidio dyfod i'r cyfarfodydd o gwbl. Dichon fod llawer yn teimlo yr un fath. Frodyr a chwiorydd, pan yn cyfeirio at, neu yn ymddiddan â meddwyn diwygiedig, na fydded i chwi ei adgoffa byth a hefyd o'r hyn a fu, na'i gyfeirio yn barhaus at y ffos y cloddiwyd ef o honi, oblegid nid oes dim a bâr fwy o boen iddo na'i adgofio o'r gweithredoedd gwirionffol a gyflawnodd pan dan ddylanwad y ddiod. Yn wir, y mae hyny yn ymylu ar fod yn greulon ato, oherwydd mae yr ymwybyddiaeth, yr ymdeimlad o'i fod wedi ymddwyn mor afresymolacannheilwng ohono ei hun, yn peri iddo gywilyddio, a chasâu a dibrisio ei hun gy- maint nes suddo dan bwys ei deimladau mor ddwfn i bydew hunan-gondemniad, fel nad all byth ymgodi i'r