Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TEILYDD CYMREIG. CYF. III.—Rhif 9. MEDI 1, 1877. EIN LLWYDDIANT A'N HAFLWYDDIANT. GAJí Y BIÎAWD PARCH. W. J. MORRIS, PONTYPRIDD. Mae i bob mudiad daionus ei lwyddiaut a'i aflwydd- iant, ond fod y llwyddiaat bob atnser yn wirioneddol, a'r aflwyddiant yn ymddangosiadol. Bhagflaenir llwyddiant gwirioneddol fynychaf gan aflwyddiant ymddangosiadol. Digwyddiad rhyfeddol o aflwydd- ianus, yn ol pob ymddangosiad allanol, i'r hen Jacob oedd colliad ei fab Joseph ; ond trodd allan wedi hyny nad oedd ond dolen yn nghadwyn ei Iwyddiant eí' a'i hiliogaeth, oblegid u Duw a'i danfonodd i'r Aipht i gadw yn fyw bobl lawer." Wrth edrych ar groeshoel- iad ein Gwaredwr Mawr, " trwy ddwylaw anwir," ni welir ondyr afiwyddiant mwyaf siomedig. Ar ol bywyd o lwyddiant heb ei fath, gwelir ef yntrengu ar y groes, mewn gwaradwydd, fel pe buasai ei ddysgeidiaeth, ei weithredoedd, a holi gynlluniau aruchel ei fywyd gogoneddus wedi troi yn fethiant hollol, er gaìar dwys i'w gyfeillicm, ac er llawenydd i'w elynion. Ond pan aeth ychydig ddyddiau heibio, gwelwyd mai ynaddang- osiadol i gyd oedd ÿr , aflw-yddiant. .■ Adgyfododd yr hwn a groeshoeîiwyd i fywyd o ogoniant a mawredd tragwyddol. Ar y groes y syìfaenai ef ei Iwyddiant dilynol. u Minau," meddai, " os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf báwb ataf fý hun." Hanes cyffeiyb i eiddo y Gwaredwr ydyw hanes Cristionogaeth, a chyffelyb ydyw haaes y mudiad dirwestol; llwyddiant gwirioneddol ac aflwyddiant ymddangosiadol. Gall ein syniadau am wir lwyddiant fod /n gyfeiliornus. Nid yw cj^nydd mewn rhif, bob amser, yn brawf o'r fath lwyddiant. M^e gwybod eia rhif yn fanteisiol i ddibenion cymdeitbasol a gwleìdyddol, ond nid yw ein rhif yn proíi ein llwydHant neu ein hai'lwyddiant. Pe buasai pob dirwestwr profffsedig yn pydwybodol, ac yn llafurio yn gyfatebol i'w alinoedd a'i fanteision o blaid yr egwyddor Iwyrymwrthodol, buasai ein nifer yn profi, i raddau mawr, fesur ein llwyddiaut. Ond gan fod nifer liosog o'r rhai fuont unwaith yn ddirwestwyr blodeuog wedi dychwelyd, yn ol y wir ddiareb, at eu hen arferion, a llawer o honynt yn elynion anghymod- lawn i ddirwest yn ei holl agweddau; a chan y ceir llaweroedd o heu ddirwestwyr, fuont unwaith yn weitbgar iawn gyda'r mudiad, ac yn cyhwfanu eu banerau yn yr awelon ar ddydd yr uchelwyl, erbyn liyn yn llu mawr llwfr, yn ymlechu yn " ogof Adulam," gan aHael eraill i wynebu poethder yfrwydr, mae yn anmhosibl i'n rhif fod yn safon deg' i ni farnu ein llwyddiant neu ein haflwyddiant wrthi. Ehaid edrych i ryw gyfeiriad arall am brofion o hyny. Gwell safon i farnu ein llwyddiant ydyw y dylanwa 1 mae y mudiad dirwestol wedi ei gynyrchu ar farn y cyhoedd j ac y mae hwn yn amlwg a dianiheuol. Er cychwyniad y mudiad dirwestol, mae barn y cyhoedd wedi newid llawer gyda golwg ar gymeriad y fasnach mewn diodydd meddwol. Deugain Ü haner can' mlynedd yn ol, ystyrid y fasnach hon, nid yn UHÎg yn fuddiol, ond yn anghenrheidiol, a'i masuachwyr mor anrhydeddus a masnachwyr eraill. Ond erbyn heddyw, edrychir arni gan ddosbarthiadau goreu cymde'thas fel masnach waradwyddus a dinystriol ei heffeithiau ; ac edrychir ar y masnachydd mewn pethau meddwol yn isel yn y raddfa gymdeithasol. Mewn lliaws o fanau yn y deyrnas hon, yn gystal a theyrnasoedd eraill, nid ystyrir ef yn deilwng o aelod- aeth mewn cymdeithas grefyddol; ac fel rheol mae y masnachydd ei hun yn' teimlo nad yw y fasnach yn gydweddol iawn âg ysbryd crefydd, fel nad oes ond rhyw nifer fechan o honynt, mewn cyfartaíodd, yn feddianol ar y cydymdeimlad lleiaf â phethau o híý'ädöl. Eroyn hyn, canfyddir fod gagendor rnawr— r hwn sydd yn mwyhau o ddydd i dríydd, yn bodo rtíẃffg cyrndeithas a'r masnachydd mew" diodydd r . Idwol. Mae y cyfnewidiid hwn yn marn y eyhoedd i'w riodoli yn ddiau, yn benaf i ddylan-wad y mudiad dirv cstol, ac yn hyn y canfÿddir gwir Iwyddiant. Hefyd, mae y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle yn marn y cyhoedd gyda golwg ar y mudiad dirwestol ei hun yn dangos gwir lwyddiant. Ar ei gychwy/iiad, cyfododd gwaedd yn ei erbyn, nid yn unig o'r byd, bnd hefyd o'r eg!wys, ac ymddengys fod gelyniaeth yr olaf ato braidd yn fwy nag eiddo y blaenaf. Nid ychydig o'n pulpudan oedd yn llefaru yn groch yn ei erhyn, ac yn ei gondemnio fel mudiad niweidiol ae anghrefyddol. Gwuaeth y wasg yn y dyddiau hyny ei goreu yn ei erbyn. Ymosododd yn ddiarbed ar ei phleidwyr, er eu bod yn ddynion " nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Ofîd erbyn heddyw, mae barn y cyhoedd wedi cyfnewid ilawer ; a'r wasg a'r pulpud wedi gorfod tewi â'u gwae'Idiadan yn ei erbyn. Gwir y ceir'ambeîl un fel Canon Harper, yn y pulpud, a rhai eithriadau yn y wasg—ond eithriadau ydynt—a phrofant y rheoi. Nid wyf am awgrymu fod y gefnogaeth ddyladwy yn cael ei rhoddiiddogan y cyhoedd hydeto, na, ysywaeth, mae ysbryd chwerw yn mynwes llawer un yn yr e^lwys tuag ato. Atelid olwynion ei gerbyd pe byddai hyny yn bosib]. Gresyn yw meddwl fod yr eglwys Gristionogol mor hwyrfrydig i roddi iddb ei chefnog- aeth ddyladwy. Gwir nad yw yn dyrchafu ei llais yn. uchel yn ei erbyn heddyw—nis gall feiddio gwneyd hyny, gan farn ffafriol y cyhoedd, ond y mae eto yn