Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYF. I. IONAWR 1, 1893. í:YN ABL'CADW YE HYN A EODDAIS ATO." 2 Tim. I. 12. Y DIWEDDAR BARCH. EDWARD MATTHEWS, PENYBONT. YMAE dioddefaint yn hanfodol i bregethu. Y mae profíad o or- thrymder yn peri dioddefgarwch: "gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch, a dioddefgarwch brofìad a phrofíad obaith." (Rhuf. v. 4). üíid oes arnaf gywilydd o'r dioddefiadau—"Am baachos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn : ond nid oes arnaf. gywiiydd." Yr oedd Paul yn awr yn y carchar yn Rhufain, yr ail waith, ychydig cyn ei farwol- aeth: ond nid oedd arno gywilydd. Y mae carchar a chywilydd yn bethau cymydogol iawn i'w gilydd. Chwi a ddywedwch am un fu mewn carchar, os gwelwch ef yn fuan wedi iddo ddyfod allan mewn lle cyhoeddus, yn rhyw hyf iawn : " Mawr oedd ei gywilydd, beth bynag." Ond yn amgylchiad y testyn y mae prawf o efengyl Crist wedi tynu ymaith warth y carchar o'r teimlad; y mae yr apostol mewn carchar a dioddefaint, ac heb deirnlo dim cywilydd : " Nid oes arnaf gywilydJ." Y mae prawf o gadw Crist wedi tynu yoiaith ofn colledigaeth Csesar, Ilhwng colledigaeth Cscsar a chadweJigaeth Crist yr oedd yr Apostol yn byw ar hyn o bryd. Yr oedd y golledigaeth hon yn ofnadwy. " Amser fy ymddattodiad i a nesaodd," ebai'r apostol; " mi a fyJdaf un o'r dyddiau nesaf yn gorwedd wedi fy nieneidio yn y fan yna; wedi fy nghroesüoelio, neu wedi fy rhwygo yn yífloü : hawyr! colledigaeth ofnadwy !" Eithr yr oedd teimlad o ogonisnt y gadwedigaeth yn llyngcu y golledigaeth i ddiddymdra. Mater y testyn yw fod y wybodaeth o gadwedigaeth yn ìíghrist yn herio peryglon gwaethaf y bywyd hwn. " Mi a wn i bwy y credais ; ac y mae yn ddiamheu genyf ei fod ef yn abl i gadw yr hyn a roddais ato erbya y dydd hwnw."