Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T MIS. CYF. I. MAI 1, 1893. EHIF 7. TEAWSFFUBFIAD DYFFBYN BACA. " Y rhai yn myned trwy ddyffryn Baca a'i gwnant yn ffynnon : a'r gwlaw a leinw y llynau. Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un ger bron Duw yn Sîon."—Psalm lxxxiv. 6, 7. GAN Y PARCH. D. POWELL, EYERTON YILLAGE, LIYERPOOL. Darlunia'r Salm hon ddylanwad atyniadol ac anwrthwynebol S'ion ar bobl Dduw. Hiraethant mor angberddol am gynteddau'r Arglwydd, gwaedda eu calon a'u cnawd mor ddolefus am y Duw byw, fel na adawant un anhawsder na rhwystri'w hatal i foddloni eu blys ysbrydol a dyrchafol. Er y gorwedd dyffryn Baca ar y ffordd, gwynebant ef yn ddiofn a Uawen. Ni oddefant i'r dyffryn sych diffrwyth, eychu a diffrwytho eu hysbryd iraidd, na glyn wylofain i ladd eu llawenydd na distewi eu per-ganiadau* Mwy na hyn, yn eu hymdaith pererindodol trawsffuiflant y dyffryn sych, diffrwyth, anghroesawgar, i baradwys ddyfrawl, ffrwythloD, ddymunoL Cloddiant i lawr at y ffynonau cuddiedig, y rhai wedi cael agoriad a arllwysant allan yn ffrydiau serchog eu dyfroedd byw ac iach i ddiwallu angenion y tir sych a'r pererinion sychedig ar eu ffordd i Si'on. Felly, wrth sicrhau bendith iddynt eu hunain, bendithia'r pererinion y wlad y teithiant drwyddi, a gwnant i'r anialwch flodeuo fel y rhosyn. Hyn yw* dylanwad gwir grefydd. Darganfydda'r hwn sy'n hiratthu a chwilio am Dduw ffynonau y dyfroedd byw a ddisychedant ac a lawenhant ei enaid ei hun, ac a droant yn fendith i ereill. Drwy dderbyn iachawdwriaeth i'w enaid ei hun mae'n offerynol i ddwyn iachawdwriaeth i'w dŷ a'i gymy- dogaeth. Mae llawer dyffryn Baca wedi ei wneyd yn ffynon gan bererinion Si'on. Nis gallaf lai na ehrybwyll fod gwir grefydd yn fendith dymhorol i'r byd? ac yn Uesoli dynoliaeth mewn ystyr materol a chymdeithasol. Diau fod j Salmydd yn cyfeirio yn y testun at ryw ffaith wirioneddol yn hanes y