Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T MIS. CYF. I. AWST 1, 1893. KH1F 10. "PEYDAIN YMFFEOST Y CEFNFOR." Peidiwch : Mtfi sydd Ddiw. " Efe a ddryllia y bwa, ac a dyrr y waywffon, Efe a lysg y cerbydau â thân. Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrcheíir fi ym mysg y cen- hedìoedd, dyrchefir fi ar y ddaear."—Psalm xlvi. 9, 10. YSTYBIED Prydain. Ein nerth ydyw ein Llynges, a'n hymffrost o> bosibl yn rhy aml. Ond pa beth ydyw y trychineb enfawr a gymerodd le yn Môr y Canoldir ? Y llongau rhyfel hyn, y peirianau dinystr mwyaf ofnadwy a ddyfeisiwyd gan ddynion ac a adeiladwyd gan deyrnasoedd, yn troi yn ddiatreg yn erbyn eu gilydd, fel y dywedodd y Prifweinidog, "in circumstances of peace, pomp, and splendour," nes y llyncodd y dyfnder un o honynt gyda'i llwyth gwerthfawr o ddynion. dewrion mewn llai na deEg munyd. Ceir gweled eto pwy sydd yn gyfrifol. Diau y gwneir ymchwiliad manwl i'r holl achos ; sc fe benderfyna y Llys Milwrol yn ol y tystiolaetbau, ac fe fydd diwedd ar yr helynt. Ee bleid- leisia y Senedd ychwaneg o arian i adeiladu llongau rhyfel eraill. Y mae ein nerth mewn llongau, ac nis gallwn ganiatau i drychineb fel hwn beri i ni laesu dwylaw gyda'r gwaith o gadw ein goruchafiaeth ar y môr. Da iawn ; mor bell, mor dda. Ond onid oes gan y trychineb hwn neges a chenadwri attcm fel teyrnas yn y dyddiau hyn ; ie, at holl deyrnasoedd y ddaear. Onid oes rhyw lais yn llefaru wrthym trwy y golled fawr hon : "Peidiwch a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw !" Onid ydyw llaw Duw yn ystynedig trwy y ddamwain ddií'rií'ol hon ? gadewch i ni weled. Gwnaeth y brenin Jehosaphat mewn undeb âg Ahaziah ddrygionus lynges mewn porthladd ar fin y Môr Coch i hwylio i Tarsis. Ond cyn i'r llongau wneyd un fordaith hi gododd yn ystorm a drylliwyd y Uongau. Ejrychai llawer ar y digwyddiad fel un digwyddiad yn mysg milcedd o rai eraill cyffelyb, heb allu i wneyd unrhyw gymhwysiad at yr hyn oedd yn brif helynt yr oes, sef y gyfathrach rhwng Jehosaphat dduwiol âg A.haziah ddrygionus. Yn sydyn cyfododd prophwyd oedd a llygad ganddo i weled yn mhell ac a ddywedodd : " Oherwydd i ti ymgyfeíllachu âg Ahsziah, yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di." Ac fe ddaeth bardd