Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y MIS. CYF. I. HYDREF 1, 1893. RHIF 12. "SEILIO O'E AEOLWYDD SEION." GAN Y DIWEDDAR BAROH. WILLIAM ROBERTS, AMLWCH. " A pba beth a attebir i genhadau y genedl ? Seilio o'r Arglwydd Sion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl Ef ynddi."—Esaiah xiv. 32. CAFODD Esaiah y weledigaeth hon ar farwolaeth Ahas, pryd yr oedd Assyria yn ben y byd, a'r Philistiaid, mae yn debygol, yn barod i orfoleddu yn erbyn Juda yn nghwymp ei brenin. Llawenychai y Phil- istiaid mewn rhyw waredigaeth a dderbyniasant yn ddiweddar oddiwrth allu trech na hwynt, ac edrychent o bosibl ar deyrnas Juda fel yn fwy agorei i ymosodiad oddiwrth y gallu dwyreinioì hwn, ac yn fwy tebyg o syrthio yn yr ymosodiad o'u blaen. Yna rìengys Duw i'r prophwyd ei amddiffyniad dros ei bobl, a'r fflangell a fyddai Hezeciah a theyrnas juda i'r Philistiaid. " Palestina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy dar- awydd : oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog." Dengys y prophwyd y byddai diogelwch Juda oddiwrth y Philistiaid a'r Assyriaid yn syndod i'r byd. Y mae dinystr Palestina, er ymfalchio o honi wrth weled cwymp ei brenin, i ddyfod o gyfeiriad Juda: fe fydd y deyrnas fechan ag yr ymfalchia yn y rhagolwg ar ei chwymp cynar yn fflangell arni. "TJda, borth ; gwaedda, ddinas; Palestina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o'r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef." "A pha beth a atebir i genhadau y genedl ?" JSÍid ydy w yn hawdd deall at bwy y cyfeirir yma: rneddylia rhai mai at genhadau y Philistiaid pan ddeuent i ofyn ammodau heddwch; ond yn hytrach o bosibl cenhadau yr Iuddewon eu hunain pan y byddai eu gẅaredigaeth oddiwrth Assyria o dan Senacher ib eu brenin, mor ryfeddol, pan yr anfonodd yr (i Arglwydd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor â thywysag yn ngwersyll brenin Assyria. Pelly efe a ddychwelodd a chy wilydd ar ei wyn eb i'w wlad ei hun." Y mae yn sicr fod y waredigaeth fawr hon wedi gadael argraff ddofn ar feddwl pobl yr Arglwydd, yn gystal ag ar y cenhedloedd oddiam-