Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y MIS. CYF. 2. EHAGFYR 1, 1893. EHiF 2. "IESU GEIST YE UN.' " Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd."—Heb. xiii, 8. (Traddodwyd ar yr achlysur o farwólaeth y Parch. John Hughes, D.D.t Oaernarfon, yr hwn a fu yn weinidog ar Eglwys Fitzclarence Street am 31 o flynyddoedd.J YMAE y testyn yn fyr ae yn gynwysfawr, yn sefyll yn gryno wrtho eí hun, heb un gair cysylltiol yn ei fachu wrth yr adnodau blaenorol. Y mae yn wirionedd mawr, yn sefyll í< 1 pe bai ar ei bcn ei hun; daw i mewn yn sydyn ac yn rymus yn nghacol ymdriniaeth hollol ymarferol, gan afael yn y meddwl gyda nerth gwefreiddiol fel mellten yn fflachio o'r cwmwl. Y mae yn wirionedd o gymhwysiad nadedig o eang, a gellwch ei ddarllen rhwng llinellau yr Epistoi hwn o'i ddechreu i'w ddiwedd. Ni wnelem gam â'r adnod pe darllcnem. hi fel diweddglo ar ddiwedd pob paragraff; a byddai hyny yn gymhorth i ni deimlo grym a phrydferthwch llawer adran o'r Epistol rhyfedd hwn. Ac am ei fod yn wirionedd mor fawr ac eang, nid ydyw yn hawdd ar unwaith weled y cysylltiad sydd rhyngddo a'r adnodau blaenorol, a rheswm yr apostol dros ei lefaru yn y fan hon. Y mae goleuni yr adnod yn ddiau yn gorphwys ar yr adnodau sydd o'i blaen ac ar ei hol, fel y mae fflach y fellten yn tywynu o'n hamgyleh: sail yr annogaeth roddir o'i blaen, a rbeswm rnawr y cynghor sydd yn dilyn» "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Daw, ffydd y rhai dilynwch gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. lesu Gristr ddoe a heddyw yr un, ac jn dragywydd." Y mae yn ein taro ar nnwaith fod yma gyferbyniad yn cael ei wneyd o ryv/ fath rhwng y blaenoriaid a Iesu Grrist. Y mae y blaenoriaid yn wrthddrychau hanes; yn ymddangos, yn cyf- lawni eu gwaith, ac yna yn diíìanu. Y mae eu gwaith a'u bywyd yn dyfod atom fel ffeithiau i'w cofio, ac fel testynau i feddwl am danynt er cefnog- aeth i ni yn yr yrfa ysprydol. Annogir ni gan hyny i feddwl am danynt a'u cofìo. Ond y mae Iesu Grist, gwrthddrych eu ffydd hwy, yn aros o hydr " ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Y mae gwrthddrych eu ffydd yn aros, os difianant hwy: gallwn feddwl am danynt a'u cofio fel esiamplau.