Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T MIS. CYF. 2. MAWETH 1, 1894. RHIF 5. YSGOL JACOB " Ac efe a freuddwydiodcl; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r nefoedd."—(Ienesis, xxviii. 12. HEN frenddwyd sydd erbyn hya, felly y dywed y doethion, wedi tror allan fel Ilawer breuddwyd arall yn efrydd. Hen ysgol ydoedd ysgol Jacob, yn cysylltu d'iear â nefoedd yn moreu y byd, ond sydd erbyn hyn wedi mallu a difianu. Breuddwydion mebyd ae ieuengctyd y byd ydoedd y goruchafion a'r goruwchnaturiol; a rhyw fath o degan oedd- ysgol Jacob gan y byd ieuangc i'w ddysgu i ddriugo ac i arfer ei aelodau, ac i'w wneyd yn chwimmwth yn ei symudiadau meddyliol, ac i'w gadw i gerdded a'i ben i fyny, er mwyn iddo gael tyfu yn hardd rhwng ei ysgwyddau; rhag i'r dadblygiad oedd ar lei yn ein ffurfio, gymeryd cyfeiriad afrosgo a pheri i'n penau dyfu nid rhwng ein hysgwyddau ond rhwng ein sodlau. Ond yn awr, y mae y byd weii tyfu i'w gyâwr gorphenedig, ae y mae dadblygiad wedi gwneyd ei waith yn gampas; nid oes angen, gan hyny, hen ddodrefn henafol fel ysgol Jacob arnom mwyach; ac o drugaredd, rhag i'r hen furddyn hwnw syrthio ar wegil syth yr oes hon, y mae Mri. Comte a Spencer a Huxley wedi ymddangos,- pob un â'i fwyall awchus yn ei law i dori yr hen gelfyn hwnw i lawr. Yr oedd y byd wedi gorphen esgyn ar y pryd, onide gallasai fod yn ddifrifol. Pe torasid hi i lawr pan oedd y patriarchiaid a'r apostolion a'r hen boblach gynt yn dringo, fe fuasai y dymchweliad yn arswydus, a'r byd yn llawer tylotach. Ni chyfrifasid yn awr yn mysg ei drysorau Salmau Dafydd, gweledigaethau Esay mab Amoz, Efengyl loan, a'r Epistol at yr Hebreaid. Y mae hen lofft y byd, gan hyny, wedi syrthio i lawr; nid oes un ysgol bellach i esgyn i'r goruchaâon; ac nid oes neb yn awr yn