Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

aiitttt ©ena^atol* RHIF. XXIII. RHAGFYR, 1837. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. KALEE POOJAH. Kai,tîe sydd un o'r prif dduwiau benywaidd a addolir gan yr Hinduaid : ffurf ydyw hi o Doorgah, gwraig Shiva, y trydydd person o'r trindod Hinduaidd. Arddangosir hi fel benyw ddu hollawl, gyda phedair braich ; a chanddi yn un Uaw gleddyf, ac yn y Uall pen cawr, yr hwn a ddeil hi gerfydd y gwallt; y llaw arall sydd ar lêd agored, yn cyfranu bendith ; ac â'r llall mae hi yn gwahardd ofn. Mae hi yn gwisgo gwddf-addurn o benglogau dynion, yr hon dorch a groga i lawr hyd ei phenliniau hi; ac o amgylch ei chanol, mae ganddi benau amryw gawri yn wregys. Mae ei gwallt du, dyrysawl a didrefn, yn hongian i lawr hyd ei sodlau hi; ac mae ei thafod hi yn estynedig gryn lawer allan o'i genau. Mae ei llygaid a'i haeliau yn gochion ; a chan ei bod wedi yfed gwaed y cawri a laddodd hi, mae yn dyfod allan o'i safn yn ffrwd ar hyd ei dwyfron. Mae hi yn sef'yll âg un troed ar ddwyfron, a'r llall ar forddwyd ei gwr, Shiva. Yn gwbl oll, mae ei llun hi y fath mwyaf dychrynllyd ac atgas a ellir ei ddyehymmygu. Gallem roddi hanes chwanegol o'r dduwies erchyll hon, ond ni chantêir i ni wneyd hyny; ac yn wir mae yn rhy ddychytn- mygol ac ynfyd i'w gyfieithu : y neb a fyno weled ychwaneg, darllened y GrealCeuadol am fis Gorphenaf diweddaf, allan o ba un y cyfieithwyd yr ychydig uchod. Cenadaeth Neyoor, yn Travancore Ddehguol. Mae pethau yn parâu i ddygwydd yn y gorsafoedd yn Travancore Ddeheuol, ag sydd yn dangos yn rymus wcrthfawrogrwydd ymdrechiadau Cenadol yn mysg y Paganiaid. Cafodd llawer o galonau eu hadnewyddu trwy ofhiith gair Duw ; ac mae ystíìd gyíí'redinol tybiaeth