Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SEREN ORLLEWINOL. Cyf.YII.] AWST, 1850. [Riiif. 72. CYNNWYSIAD PREGETH. Marc 12. 6.—Am hyny cto, a chanddo im Mab, ei anwylyd, efe a antbnodd hwnw hcíyd yn ddiweddaf; gan ddy wedyd, IIwy a barchant fy Mab i. Ein hanaean yn bresennol yw cymeryd dan ein hystyriaeth eiriau y testyn fel ag.y maent yn cael eu cymhwyso atom ni. Yma sylwn— I. Ar yr urddasol gymeriad a roddir ar Grist—-Mab. II. Anfoniad Crist—efe a anfonodd hwnw hefyd. III. Y parch y mae Duw yn ofyn i'w rhan ef: " Hwy a barchant fy Mab i." I. Ar yr urddasol gymeriad a roddir ar Grist—Mab. Y mae yr arddangosiad hwn o Grist yn bresennol i ni yn ei osod allan, yn— 1. Yn ei natur ddwyfol; unig Fab Duw.— Yr angylion aelwir yn feibion Dtiw. Y seint- iau hefyd ydynt yn feibion Duw. Ond Iesu ydyw un Mab Duw ; Mab mewn yslyr tra gwahanol i'r angylion a'r seintiau ; oblegyd "wrth bwy o'r angylion y dywedodd efe, Fy Mab; ond wrth y Mab, Dy orsedd-faingc di, O Dduw," &c. "A thrachefn, pan yw yn dwyn ei gyntaf-anedig i'r byd," &c. Heb. 1. 5. Crist sydd Fab Duw. Y mae yn meddu yr un natur a'r Tad. " Myíi a'r Tad un ydym." " Yr hwn a'm gwelodd i n wel- odd y Tad." Yr oedd efe yn meddu yr un gogyfuwch ogoniant a'r Tad. Ni tbybiodd ya drais ifod yn ogyfuwch a Duw; efe sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bencìigedig yn oes oesoedd. Ei enw sydd gadara ; ei gymeriad eydd ryfeddol. 2. Mae Crist yn cael ei osod ger ein bron ni fel gwrthddrych o hyfrydwch y Tad ; ei an- wylyd. Ysgrifenedig y w, fod y Tad yn caru y Mab. Ysgrifenodd Esay atn dano fel y cyfryw (42.1.) " Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i'r hwn y mae fy enaid yn ymfoddloni ynddo." Yn ei fedydd yr oedd y Tad yn cyhoeddi ei gariad tuag ato pan oedd y nefoedd yu agoryd iddo. " Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd." Math. 3.17. Ail-adroddwyd bynyn ei wedd-newidiad, ar y mynydd—yr Cyf. VII. 23 hyn sydd amlygrwydd helaeth o gariad y Tad at ei Fab. II. Anfoniad Crist. Aníbnodd hwnw he- fyd. Danfonodd Duw ei broffwydi a'i wein- idogaidd weision i bregethu, i addysgu, a rhybuddio dynion, ac i amlygu ewyllys Duw i'rbyd. Ac yn ddiweddaf oll efe a ddanfon- odd ei unig Fab, ei anwyl Fab, unig Oen ei fynwes, y Duw cadarn, a Thad tragywyddol- deb. I. 0 ba le y danfonwyd ef. O fynwes ÿ Tad. Ni welodd neb Dduw erioed; yr un- ig-anedig Fab, yr hwn sydd ya mynwcs y Tad, hwnw a'i hysbysodi eí'. Yr oedd yn. meddu annraethol ogoniant ac hyfrydwçh gyda'i Dad cyn bod y byd. " Yr oeddvyn i gydag ef msgys un wedi ei feithrin gydag ef, ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beu- nydd, ac yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser." Ond o'i urddas nefolaidd á'i byfryd- wch y danfonwyd ef i fyd pechadurus, ya gyntaf oll at yr eiddo ei hun—had Abraham— yr luddewon—tŷ Israel. Ac yna cynnyg- iwyd ef i'r holl fyd er bendiíh a meddygìo,- iaeth. II. Iaba beth y danfonwyd ef. Danfonwyd eí' i fod yn Waredwr i'r byd—i waredu dyn- ion. a'u dwyn i ffafr Duw, ar ddelw Duw, ac yn ddiweddaf i fwyniant o Dduw. Efe a ddaeth i ddattod gweithredoedd y diaiol; I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y daítodai weithredoedd y diafol, gan osod i fyau deyrnas nefoedd ar y ddaear. Efe a ddanfonwyd i oleuo byd tywyll ag athraw- iaeth yr efengyl, ac i adferyd byd o estron- iaid trwy ei allu a'i ras, i waredu byd mell- digedig trwy farwolaeth tr y groes. A pher- ffeithia halogedig fyd trwy ei Ysbryd mewa santeiddrwydd. Gwaed Iesu Grist ei Fab ef sycld yn glatihau oddiwrth bob pechod. 1 Ioan 1. 7. III. Y parch a ddysgwylia Duw ar ran ei Fab. Efe a ddywedodd, Hwy a barchant fy Mab i. 1. Y llwybr trwy ba un y mae y parch i fod yn brofedig. (1.) Trwy aurhydeddu ei berson. Fel hyn y dywed yr angylion, Teilwng yw'r Oen i dderbyn y gallu a'r gogoniant. (2;) Trwy ofal am ymostyngiad idd ei aw-