Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SEREN ORLLEWINÖL. Cyf. XíV.] RHAGFYR, 1857. [Rhif. 152. G W E D D I. Salm 99. 4 —"Ac a arferaf weddi." Mae y ddyledswydd a sonir am dani yn ein testyn yn un a arferir gan bob Crist- io». Iê, " pob duwiol a weddia arnat ti yn yr amser y'th geffir. Gellir dywedyd yn ddibetrus fod pob un mewn synwyr ac oedran ag sydd wedi myned i'r breswylfa ddedwydd tu draw i'r llen wedi gweddio yma ; (nid ydym yn son am blant bychain, pa rai ydynt yn ddiau yn gadwedig pan yn marw yn eu mabandod heb weddio erioed, gan nad ydynt yn medru amgyffred peth- au, nac yn bechaduriaid gweithredol.) Y mae y Oristion mewn gweddi yn dàl cym- undeb â Duw—yntywallt deisyfiad ei ga- lon gerbron Duw, ac yn ei gydnabod yn ddiolchgar am bob trugaredd. Salm 62. 8 ; Joel 2. 32. Mae amryw fathau o we- ddiau yn cael eu harferyd—cawn sylwi ar- nynt yn y drefn ganlynol: 1. gweddi y meddwl. 2. Gweddi Ddirgel. 8. gweddi deuluaidd. 4. Gweddi Gynnulleidfaol a Cky- HOEDDÜS. 1. Gweddi y meddwl, pan na arferir y llais. Cawn fod Moses yn gweddio fel hyn pan lefarodd yr Arglwydd wrtho ar làn y Môr Coch, wrth arwainy genedl tua Chanaan : Exod. 14. 15. Cawnhanes am Hannah hefyd yn llefaru yn ei chalon yn unig, ei gwefusau a symudent, a'i llais ni chlywid: 1 Sam. 1. 13. Ac mae y weddi yma yn reddfol yn y Cristion. Pan fyddo rhyw bethau yn nhroion Rhagluniaeth yn gweithio yn ei erbyn, mae fel Paul yn ym- bil ar ei Dad am iädo eu troi yn lles iddo; ond-fe ddywed Duw wrtho, " Digon i ti fy nghras i;" ac addawa roddi nerth iddo yn ol y dydd, a chymhorth yn ol yr achos; ac felly mae y Cristion yn gallu edrych yn hyderus ar Iesu, a hyny bob amser ac yn mhob tywydd. Mae yntau yn barod bob amser i'w gynorthwyo. " Ni huna ac ni chwsg Ceidwad Israel." Mae y pyrth yn wastad o led y pen i'r meddwl dramwy at y drugareddfa, ac nis gall y Cristion beid- io a gweddio yn mhob amgylchiad. Pan feddylia am dano ei hun fel troseddwr o gyfraith santaidd Duw, a'r melldithion a'r gosp yr oedd yn agored iddynt, a meddwl Cyk. XTV. 66 wedi hyny am yr Arglwydd fel ei noddfa a chyfranydd ei holl fendithion, ac fel Bod grasol, hollalluog, ac hollwybodol; ac he- fyd fel gwrandawr gweddi, a'r unig un a all faddeu pechodau, ac Awdwr pob gras, y mae y cwbl yn ei arwain i weddio. He- fyd, pan feddylia am Grist fel yr unig ffordd at Dduw, a'r unig Gyfryngwr rhwng Duw a dynion, ac fel prynydd ei holl fen- dithion a'i gysuron yn mhob ystyr—fel ei Broffwyd doeth, ei Offeiriad rhinweddol, a'i Frenin goruchel ac awdurdodol, y mae y pethau hyn eto yn ei dywys i ymarferyr un ddyledswydd. Ac os ystyria y saint fel ffryndiau, gweision, plant, ac offeiriaid i Dduw, a'u dyledswydd i'w ogoneddu ef, ni ali lai na diolch o'r galon yn wresog i Dduw a'r Tad. yr hwn a'i carodd ac " a'i I gwnaeth yn gymhwys i gael rhan o or- phwysfa y saint yn y goleuni," &c. Mae ei feddwl yn gweddio. 2. Gweddi ddiegel, neu neillduedig; a arfera mewn manau o wydd dynion. Cawn fod Daniel yn myned i'w ystafell. wedi i'r brenin selio yr ysgrifen yn erbyn addol- wyr y Duw byw; ond ni pheidiodd Daniel a galw ar, a chyffesu o flaen Duw, megys y gwnai efe cyn hyny. Anoga Crist ni i weddio yn y dirgel, am y bydd i'r Hwn a wel yn y dirgel ein talu yn yr amlwg, (yn ngwydd tyrfa na all neb ei rhifo.) Cawn hanes am y Ceidwad yn myned wrtho ei hunan i'r mynydd i weddio—am Pedr yn Joppa yn nghylch y chweched awr ar ben y tŷ yn gweddio. Gweddiai Iesu yn aml, yn y deml, yn yr ardd, &c. Nid oedd lly- gad neb ond yr Hollwybodol ei hun yn gweled Nathanael o dan y ffigysbren. Yr oedd y dysgyblion ar ol esgyniad eu Har- glwydd mewn goruwch-ystafell. Y mae yn naturiol meddwl fod rhyw leoedd neill- duol yn fanteisiol i'r meddwl ymddiosg oddiwrth y byd a'i bethau, er mwyn bod yn yr agwedd angenrheidiol i ddal cymuu- deb â Duw ; canys nid oes gan y Cristion un ffordd i gyfeillachu â'i Dduw ond trwy weddi: ac yr ydym yn credu mai dyma yr unig ffordd a drefnwyd gan y Tad i ni i ddyfod i ymresymu â'i fawredd. Cawn ddigon yn hanes foreuol y patriarchiaid ar ol y dylif i brofì eu bod yn arfer gweddio drostynt eu hunain a thros eraill. Gweddi- odd Abraham dros Sodom, Lot drosto ei hun a'i deulu; a digon tebyg i Eleaser,