Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SEREN ORLLEWINOI, /7 ■> Cyf. XVI.] TACHWEDD, 1859. [Rhif, 123. Y PARCH. C. H. SPURGEON YN CASBACH. O'B " BEDYDDIWB." Ar ddydd Mercher, Gorphenaf 20fed, .Ymwelwyd â'r lle uchod gan gynnulleidia Uuosocach nag a welwyd yma er ys blyn- yddau meithion. Daeth tyrfa, mfer yr «on a amcangyfrifwyd yn amrywiol o 5000 i 7000, vnghyd, i gae, 1 wrandaw Ŵwy bregeth gan yr. areithiwr poblogaidd íagenwedig. Codwyd hanner coron am fynediad ê eisteddleoedd agosaf i r. pre gethwr, a swllt am y rhai tucefn i r rhemy, ond cyn dechreu y gwahanol oedíaon, guu- Jngwyd pawb i mewn yn Ẅẅẁ ir oedd yr elw yü myned at dalu y ddyled ar Gapel newydd y Bedyddwyr yn Casbach, ỳr hwn a gostíodd oddeutu ápOO^ bya- unwyd â cherbydresau neillduol 1 gmao ymwelwyr o wahanol leoedd yn yr ardai oedd amgylchynol. Darfu i hyn, ynghyd a gosodiad y pris am y mynediad imew, gynhyrfu ún o'r newyddiaduon dyddio Seisnig i ysgrifenu erthygllled angharedig a chwerw yn erbyn Mr. Spurgeon. Atyr erthygl hwn cyfeiriodd y boneddwr parch- fts, ar diweddun o'r oedfaon, mewn dull digrifol a chwareugar. Gollyngwyd y cyhoedd i mewn awr a hanner c?n dechreu yr addohad Aeth Mr. Spurgeonyn union wedi cyrhaeddy üe, ì'r eslynlawr, yr hwn oedd wedi ei doi, er cadw allan danbeidrwydd yr haul yn gysta a'r gwlaw. Tn ffodus m ddarfu iddi Wlawio yn ystod yr oedfaon, ond bu cawod Ued bwysig yn yr amser rhwng y ddwy oedfa Tn y boreu, ar ol gweddio, ceisiodd i pregethwr gan y gy^idfa ganu Vmn ar dôn a elwir yr Hen lOOfed Dil- ynodd hyn trwy ddarllen yr 28fed bennod o Matthew, ac esboniodd y bennod mewn Mì eglur a hynod o darawiadol. Wedi gorphen y darlleniad, rhoddwyd allan Hymn Gvmraeg, gan y Parch. ■Thomas ÌWs, Llywydd Coleg Hwlffordd. Tra p oeddid yn canu yr hymn hon, effeith- *Wyd ar deimladauMr. Spurgeon nes perr iddo dywallt dagrau. Gweddiwyd eüwaith > dechreu pregethu. . Gosodwn o flaen iû darllenwyr îraslumad o'r bregeth. í>echreuodd Mr. Spurgeon fel y canlyn:~ Crr. XVI. 31 Gyfeillion hoff,-—Tr wyf yn erfyn yn daer ac yn ostyngeidg, am eich gweddiau drosof, fel y bydd i mi feddu y dawn i bregethu yr efengyl i chwi heddyw gyda nerth. Nid wyf yn cofìo fy mod erioed wedi teimîo fy ngwendid yn fwy nag yr ydwyf yn ei deimlo yr awrhon. Pan gof- iwyf am y duwiolion ag yr ydych wedi eu gwrando,—dynion ag y bydd eu henwau yn teilyngu parch tra parhao enwau ar y ddaear,—nid wyf yn beiddio fy mod yn meddu y galluoedd i ddilynu rhai enwog- ion ag sydd wedi eich anerch. Ond beiddiaf ddweyd hyn,—er y dichon fod genych weinidogion yn Nghymru ag a iedrant bregethu yr efengyl yn well na myfi,—nid oes neb a fedr bregethu gwell efengyl. Tr un yw yr efengyl o'r dechreu i'r diwedd,—a'r un Gwaredwr y mae hi yn ei osod allan, yr hwn sydd yn barod i dderbyn y gwaelaf, y gwanaf, ỳ mwyaf euog a'r mwyaf aflan. Tsbryd Duav a orphwyso arnom yr awrhon! Ceir fy nhestun yn y 5ed adnod o'r 28ain bennod o Matthew, yr hon sydd fel y canlyn:— "A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwrageddj nac ofnwch; canys mi a wn mai ceisio ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd." (Darllenwyd y testun yn Nghymraeg gan y Parch. T. Davies.) Sylwodd y pregethwr fod yr angel wedi taflu ei olygion tanbaid, yn ddysgleirdeb Ä gogoneddus, ar geidwaid y bedd, ae wedi eu gorthrechu hwynt â dychryn ; aethant megis yn feirw, ac ni adawyd ysbrydiaeth ynddj-nt. Gerllaw safai dwy fenyw egwan; nid oeddynt hanner mor gryfed ä'r milwyr nerthol yma, y rhai oeddynt wedi gwynebu angeu mewn llawer brwydr. Dechreuodd y menywod grynu hefyd; ond taflodd yr angel guddlen dros danbeidrwyd ei ddys- gleirdeb, gosododd y fantell o'r neilldu, a thrôdd atynt a dywedodd, "Nac ofnwch^ canys mí a wn mai ceisio yr ydych yr ìesu.v Ni ddaethoch chwi yma i'w garch- aru yn y bedd, ond i geisio yr hwn a groeshoeliwyd. Ar wyneb y testun gor- weddai yr egwyddor hon, fod achos gan ddynion drwg i ddychrynu yn barhaus ond nid oedd achos i'r duwiol ddychrynu un amser. Perai presennoldeb angef i'r annuwiol arswydo, ond gallai y duwiol wynebu yr hen Satan heb ofni. Doed a ddel yn y byd hwn, mae gan yr hwn nid yw yn earu Duw achos brawychu a dych-