Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

w ^JA U 't 0 YR ATTSTRALYDD: EHIF. 3.] MAWETH, 1870. [CYE. IV. CYMRO YN AUSTRALIA. (Parhad o tudal. 31.) "Ymddengts i mi," meddai y cyfaill, "mai new chum ydych." Beth yw hyny? meddwn inau. "Wel, nn newydd ddyfod i'r wlad," meddai. " Y mae yr olwg hen-wladaidd ar eich gwisg, yn dangos yn eglur nad ydych etto wedi dysgu ymddilladu yn gyfatebol i hinsawdd y wlad. Os parhewch i ddwyn y dillad duon yna o'ch cylch, chwi doddwch—bydd raid i rywun eich casglu i fwced ar un o'r heolydd yna. Hal ha! ha! Y mae eich het dri-uchder, eich côt wenol- gynffonog, a'ch gwasgod a'ch llodrau—y cwbl o frethyn du, yn ym- ddangos yn hynod ddigrifol i ni yn y wlad hon. Os edrychwch o'ch hamgylch, chwi welwch ar unwaith beth jw gwisgoedd cyffredin y bobl—llodrau ffwstian, crys rhudd-las neu goch, a het gantalog ysgafn. Eich ymddangosiad dyeithrol sydd wedi tynu sylw yr hen ddwylaw yna. Gwelant ar unwaith mai newyddian ydych, a rhoddant i chwi y cyfarchiad trefedigoi, ' Joe!' Y mae yn arferiad yn mhlith yr hen sefydlwyr, cofiwch, i waeddi' Joe!' ar bawb a phob peth fo'n Seis'nig- aidd, neu yn hynod mewn ymddangosiad; hyny y w, pob peth gwa- hanol i ymddangosiadau ac arferion digymenaidd yr hen ddwylaw. Yr ydych yn ymddangos mor hynod i'r bobl hyn ag a fyddai sawdiwr yn ei gôt goch yn mhentref Penmachno. Cofiwch i chwi gael eich * Joeio' ar eich dyfodiad cyntaf i'r wlad." Wel, wel, ebe finau, nid yw eich traddodiad yn siared yn uchel atn garedigrwydd y sefydlwyr at ddyeithriaid. Y mae y dynion yna, feddyliwn i, yn ddigon ynfyd i fwyta eu hetiau; a phe buaswn i yn Eliseus, buaswn yn galw am eirth o'r coed yna i'w llarpio a'u llur- gunio am gymeryd eu difyrwch ar draul ymddangosiad dyeithrad. Os fi ydoedd achos yr wb ! wb! a'r gAraeddi, gallaf sicrhau i chvyi y